Claddu anghyfreithlon: Dedfrydu tair

  • Cyhoeddwyd
Geoffrey Sturdey
Disgrifiad o’r llun,

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad bod Geoffrey Sturdey wedi marw o achosion naturiol

Mae tair menyw wedi cael eu dedfrydu am gladdu corff dyn yn anghyfreithlon ar dir yng Ngheredigion.

Fe gafodd gweddillion Geoffrey Sturdey eu darganfod ger Tregaron fis Mehefin y llynedd.

Roedd ei weddw Ladan Rebekah Sturdey, 56 oed, a'i ffrind Boqer-Ore Adie, 43 oed, wedi parhau i hawlio budd-daliadau gwerth dros £70,000 yn ei enw yn dilyn ei farwolaeth.

Cafodd y ddwy eu dedfrydu i 20 mis o garchar, ac fe gafodd Karmel Adie, 25 oed, dedfryd o naw mis o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn ar ôl cyfaddef i gladdu corff Mr Sturdey yn anghyfreithlon.

Roedd Mr Sturdey yn byw ar fferm Beth Berith ym mhentref Llwyn-y-groes ar gyrion Tregaron.

Roedd yn 60 oed pan ddiflannodd yn Hydref 2008.

Cafodd corff Mr Sturdey ei ddarganfod yn dilyn ymchwiliad gan yr Adran Waith a Phensiynau ac fe ddaeth archwiliad post mortem i'r casgliad iddo farw o achosion naturiol.