Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau arfordir Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu datblygu cynigion ar gyfer Canolfan Gweithgareddau Dŵr newydd yn Y Rhyl ac ailddatblygu'r Nova ym Mhrestatyn.
Ddydd Mawrth fe gymeradwyodd cabinet y cyngor y cynigion, sy'n rhan o gynlluniau ar gyfer hamdden a thwristiaeth ar hyd yr arfordir.
Ym mis Ionawr 2013, cytunodd y cabinet i ymchwilio i opsiynau ar gyfer dyfodol cyfleusterau o'r fath yn yr ardal.
Yn y misoedd diweddar, mae anghydfod wedi bod rhwng y cyngor a chwmni Hamdden Clwyd, sydd wedi bod yn gyfrifol am ganolfannau hamdden yn cynnwys yr Heulfan yn Y Rhyl a'r Nova.
Oherwydd toriadau i gyllid, fe dynnodd y cyngor nawdd yn ôl, a chyhoeddodd Hamdden Clwyd nad oedden nhw'n gallu fforddio cynnal y canolfannau bellach.
Gwella'r theatr
Nawr mae'r cyngor yn dweud mai'r bwriad yw gwella theatr Pafiliwn Y Rhyl, sy'n rhan o'r un adeilad â'r Heulfan.
I ddechrau, mae'r cyngor yn bwriadu tacluso'r theatr a pharhau gyda rhaglen o welliannau yn cynnwys ystafelloedd newid newydd, prynu offer sain a golau gwell a thacluso'r brif fynedfa.
Mae'r awdurdod yn disgwyl derbyn y cynigion datblygu ar gyfer Y Rhyl erbyn mis Ebrill, a dewis datblygwr erbyn mis Medi.
Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chwblhau ar ailddatblygu'r Nova erbyn mis Ebrill a'i thrafod gan y cabinet yn yr un mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013