Marwolaethau: Gweinidog yn 'gandryll'
- Cyhoeddwyd
Dywedodd y gweinidog iechyd Mark Drakeford ei fod yn "gandryll" am y defnydd o e-bost sy'n son am nifer y marwolaethau mewn rhai o ysbytai Cymru.
Roedd yr e-bost gan Syr Bruce Keogh at Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ynddo mae'n dweud fod y data ar gyfraddau marwolaeth yn chwe ysbyty yng Nghymru yn achos pryder ond nad oedd yn ddigonol "i ffurfio barn".
Ond yn ôl Mr Drakeford mae'r cyfan yn rhan o ymgyrch wleidyddol gan y Ceidwadwyr yn Llundain i ddinistrio enw da'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r Ceidwadwyr am ymateb.
Gwrthod ymchwiliad
Ychwanegodd Syr Bruce yn ei bost ei bod yn "ymddangos yn synhwyrol i ymchwilio" i'r mater.
Ond wrth ymateb i hynny dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae'r GIG yng Nghymru yn agored ac yn dryloyw ac mae lefel uwch o archwiliad yma nac unman arall yn y DU.
"Mae cyfraddau marwolaeth yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi bob chwarter ac mae'r diweddaraf yn dangos gwelliant clir. Os oes problemau yn cael eu darganfod, rydyn ni'n gweithio'n galed i'w datrys a dydyn ni ddim yn oedi i ymchwilio.
"Mae awgrymu bod llywodraeth Cymru yn cuddio cyfraddau marwolaethau yn hollol hurt a heb unrhyw sail."
'Cymhelliad gwleidyddol'
Wrth wneud cyfres o gyfweliadau nos Iau, roedd Mr Drakeford yn amlwg yn flin iawn.
Pwysleisiodd nad oedd yn flin am yr e-bost ei hun, ond dywedodd:
"Mae'r defnydd sydd wedi ei wneud o'r e-bost yna yn fy ngwneud yn gandryll at yr ymgais ymosodol - a gyda chymhelliad gwleidyddol - i dynnu enw da'r GIG yng Nghymru drwy'r baw."
Mynnodd hefyd bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng yng Nghymru a gwrthododd yn bendant a chynnal ymchwiliad, gan ddweud y byddai hynny'n ormod o ymyriad i'r GIG yng Nghymru.
Hyd yma mae Syr Bruce Keogh wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2013