Cyfle i gleifion drafod pryderon gyda bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd
Lilian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Lilian Williams wedi bod yn feirniadol o'r gofal y cafodd hi mewn dau ysbyty

Bydd cyfle i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) drafod eu pryderon gyda chynrychiolwyr o'r bwrdd iechyd dros yr wythnosau nesaf.

Mae adolygiad yn cael ei gynnal i ABMU ar hyn o bryd, fydd yn edrych ar y ffordd mae'n darparu gofal ar gyfer pobl hŷn.

Roedd hyn mewn ymateb i'r ffaith bod dynes oedrannus wedi derbyn gofal gwael mewn dau ysbyty yn ABMU.

Bydd y clinigau yn cael eu cynnal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar Chwefror 24, Chwefror 27, Mawrth 4 a Mawrth 5.

Cefndir

Bu Lilian Williams farw wedi iddi dderbyn triniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Chastell Nedd Port Talbot dair gwaith rhwng mis Awst 2010 a Thachwedd 2012.

Mae ei theulu'n dweud ei bod hi wedi cael triniaeth ofnadwy.

Wedi oedi, mi gafodd ymchwiliad ei gynnal yn y diwedd, a chasgliad hwnnw oedd bod llawer o'r cyhuddiadau a gafodd eu gwneud gan y teulu yn gywir.

Pwrpas yr adolygiad, gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi hynny, ydy edrych ar bedwar agwedd o'r bwrdd iechyd.

Un ohonyn nhw ydy'r diwylliant o ofal, a'r agweddau eraill yw sut mae meddyginiaethau yn cael eu cofnodi, safonau nyrsio a'r ffordd mae'r bwrdd yn ymateb i gwynion.

Gwrando a dysgu

Er y bydd y sesiynau trafod cychwynnol yn digwydd yn Ysbyty Tywysoges Cymru, mi fydd rhagor o glinigau yn cael eu trefnu mewn ysbytai eraill, meddai'r bwrdd iechyd.

Bydd teuluoedd neu gleifion yn medru cael sgwrs gyda gweithredwyr ac uwch glinigwyr yn unigol a bydd cyngor ar gael os ydy unigolion eisiau gwneud cwynion swyddogol.

Yn ôl Prif Weithredwr y bwrdd, Paul Roberts, mae mwyafrif y gofal sydd yn cael ei gynnig gan yr ysbytai o safon uchel. Ond mae'n cydnabod bod hi'n bosib gwneud mwy.

"Rydyn ni eisiau cyfarfod rhieni, perthnasau a gofalwyr sydd gyda phryderon difrifol am ofal ac sydd yn teimlo nad ydyn nhw eto wedi cael yr atebion maen nhw eu hangen.

"Mi fyddwn i yn gwrando ac yn dysgu oddi wrthyn nhw ac rydyn ni yn gobeithio y bydd rhai yn cytuno i weithio gyda ni i wneud newidiadau. Bydd persbectif cleifion a theuluoedd wrth galon y gwelliannau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol