Newid sut mae mesur cyfraddau marwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd y mae cyfraddau marwolaeth yn cael eu mesur yn ysbytai Cymru yn debyg o gael ei newid.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn barod i dderbyn cyngor tasglu sy'n dadlau bod angen newidiadau er mwyn cynnig mwy o eglurdeb i'r cyhoedd.
Eisoes mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ddatrys problemau sylfaenol yn hytrach na beio'r data.
Bydd y Tasglu Tryloywder yn cyhoeddi'r argymhellion mewn adroddiad yn ddiweddarach, gan alw am fwy o ddata clinigol i fod ar gael i gleifion yn ysbytai Cymru.
Ers tro mae'r bobl sy'n feirniadol o gyfraddau marwolaeth yn yr ysbytai yn dweud eu bod yn uwch nag y dylen nhw fod.
Anodd cymharu
Yn ddiweddar fe awgrymodd cyfarwyddwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr, Syr Bruce Keogh, y dylid ymchwilio i gyfraddau marwolaeth uchel yn rhai o ysbytai Cymru.
Defnyddiwyd hynny gan y Ceidwadwyr yng Nghymru i ymosod ar Lywodraeth Cymru.
Ond mae'r gweinidog yn dadlau y gall y wybodaeth sydd ar gael fod yn anodd iawn i'w ddehongli.
Wrth iddo wrthod yr alwad am ymchwiliad, mynnodd nad oedd modd cymharu'r cyfraddau marwolaeth yng Nghymru a Lloegr gan fod y ddwy wlad yn defnyddio ffyrdd gwahanol o fesur.
Mae'r tasglu yn argymell bod y GIG yng Nghymru yn cyhoeddi ffyrdd newydd o fesur cyfraddau marwolaeth fydd yn ei gwneud yn haws cymharu ffigyrau o fewn Cymru a thu hwnt.
'Sawl ergyd i hyder'
Ond mae llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar iechyd, Darren Millar AC, yn wfftio'r canlyniadau gan ddweud:
"I'r Ceidwadwyr nid beio'r data yw'r ateb - ystyried y problemau yw'r ateb.
"Mae gennyf bryderon difrifol am ddiwygio ystadegau a ddangosodd yn ddiweddar bod 11 o'r 17 ysbyty cyffredinol â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r disgwyl.
"Mae hyder y cyhoedd yn y GIG yng Nghymru wedi cael sawl ergyd dros y blynyddoedd diweddar oherwydd perfformiad gwael yn erbyn y targedau.
"Ond yn hytrach na mynd i'r afael â'r trafferthion a buddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd mae Carwyn Jones a Llafur Cymru yn awgrymu dileu targedau a'r mesuryddion sy'n dangos eu bod yn methu."
'Monitro a chyhoeddi'
Dywedodd Dr Chris Jones - Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru ac aelod o'r tasglu:
"Mae adroddiad y tasglu yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru wedi cymryd camau sylweddol tuag at dryloywder pellach... ond mae'n amlwg bod peth o'r wybodaeth sydd ar gael yn rhy dechnegol ac yn anodd i'w ddefnyddio.
"Er mwyn iddyn nhw fod yn ddefnyddiol mae angen i ystadegau marwolaethau gael eu monitro a'u cyhoeddi ar sawl lefel o fewn un gwasanaeth iechyd.
"Rydym felly'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r byrddau iechyd er mwyn gweithredu system newydd sy'n ymwneud ag ysbytai Cymru, a'i weithredu erbyn yr hydref eleni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014