Prif weithredwr yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder

  • Cyhoeddwyd
Bryn Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bryn Parry Jones nad yw'n bwriadu camu o'r neilltu

Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn prif weithredwr Cyngor Sir Benfro, Bryn Parry Jones, wedi methu.

Pleidleisiodd 23 cynghorydd o blaid, 30 yn erbyn gyda phump arall yn ymatal.

Cafodd y cynnig ei roi gerbron y cyngor yn dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), wnaeth alw ei benderfyniad ynglŷn â threfniadau pensiwn yn "anghyfreithlon".

Roedd nifer o gynigion wedi cael eu gwneud yn erbyn Mr Jones, ond cafodd pob un eu cyfuno i un bleidlais.

Roedd un o'r cynigion yn disgrifio perfformiad Mr Jones fel bod "wrth lyw'r Titanic, yn taro un mynydd iâ ar ôl y llall".

Cafodd ei feirniadu hefyd am beidio camu o'r neilltu tra roedd ymchwiliad heddlu i'r adroddiad yn parhau.

Fe fethodd pleidlais o ddiffyg hyder yn swyddog monitro'r cyngor, Lawrence Harding, hefyd.

Roedd bron 19 o geisiadau wedi eu gwneud i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Jones a Mr Harding.

Diddymu

Ym mis Chwefror penderfynodd y cyngor dderbyn casgliadau adroddiad SAC.

Fe wnaeth y sir hefyd benderfynu diddymu'r polisi ynglŷn â thaliadau ariannol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedden nhw am wneud sylw ynglŷn â'r bleidlais o ddiffyg hyder.

Ddydd Mawrth cyhoeddodd undeb Unsain eu bod am gynnal pleidlais o ddiffyg hyder ymhlith y 2,000 o aelodau sy'n gweithio i'r cyngor sir.

Dywedodd llefarydd fod angen i leisiau'r gweithwyr gael eu clywed.

Carfan o gynghorwyr annibynnol sy'n rheoli'r sir.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad i Gyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â thaliadau anghyfreithlon yno.

Mae'r prif weithredwr, Mark James, wedi camu o'r neilltu tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae Mr James wedi dweud nad yw e na'i swyddogion wedi gwneud dim o'i le.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol