Pwyllgor seneddol i glywed tystiolaeth am dâl uwch-reolwyr

  • Cyhoeddwyd
Cyflogau i uwch reolwyr
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2013, daeth i'r amlwg bod deg o benaethiaid yn y sector gyhoeddus yng Nghymru yn ennill cyfanswm cyflog o £1.7 miliwn

Bydd ymchwiliad i gyflogau uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn clywed tystiolaeth am y tro cyntaf yn ddiweddarach.

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn ymchwilio i dâl uwch swyddogion, y ffordd caiff y rhain eu penderfynu, a'r broses o gymeradwyo'r cyflogau.

Yn 2013, roedd rhaglen BBC Cymru, Week In Week Out, yn dweud bod deg o benaethiaid y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ennill cyfanswm cyflog o £1.7 miliwn a bod wyth o'r rhain yn ennill mwy na'r Prif Weinidog David Cameron.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor mai'r bwriad yw "taflu goleuni" ar fater dadleuol i'r cyhoedd.

Ennill mwy na Cameron

Mae'r pwyllgor wedi comisiynu papur gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cymharu cyflogau uwch reolwyr cyrff cyhoeddus Cymru.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn y senedd ddydd Iau, a bydd aelodau o'r pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan nifer o gyrff cyhoeddus.

Mae'r rhain yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru a Chynghrair y Trethdalwyr.

Dywedodd bod rhai penaethiaid hefyd wedi gweld cynnydd i'w cyflogau ar adeg pan mae'r rhan fwyaf o weithwyr y sector cyhoeddus wedi gweld eu cyflogau yn cael eu rhewi.

Roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn feirniadol iawn o godiad cyflog i uwch-swyddog Cyngor Caerffili.

'Testun dadl'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Darren Millar AC, bod hwn yn amlwg yn bwysig i'r cyhoedd.

"Mae'r cyflogau a delir i uwch-reolwyr yn y sector cyhoeddus wedi bod yn destun llawer o sylw yn y newyddion yn ddiweddar, ac mae'n amlwg bod barn gref ar y mater ymysg y cyhoedd.

"Bydd y pwyllgor yn edrych ar y gwahanol brosesau am benderfynu cyflogau uwch-reolwr yn y sector cyhoeddus, ac ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer eu cymeradwyo.

"Wrth wneud hyn, ein bwriad yw taflu goleuni ar fater sydd wedi bod yn destun dadl, yn enwedig yn ystod y cyfnod diweddar o galedi yn y sector cyhoeddus.

"Rhaid i gyflogau uwch-reolwyr ddangos gwerth am arian y trethdalwyr, a hyderwn y bydd ein hymchwiliad yn arwain at ganfyddiadau ac argymhellion defnyddiol y bydd Llywodraeth Cymru ac eraill yn eu mabwysiadu."