Dadl gwasanaeth iechyd yn poethi yn San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Hunt A.S.
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Hunt, Gweinidog Iechyd San Steffan

Mae pwysau yn cynyddu ar adrannau brys ysbytai yn Lloegr o achos methiannau gofal y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl Gweinidog Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt.

Mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, fe ddywedodd Mr Hunt fod effaith uniongyrchol wedi bod ar ysbytai ar y gororau yn Lloegr, ar ôl gweld cynnydd o 10% mewn cleifion o Gymru oedd yn defnyddio gwasanaethau ysbytai yn Lloegr ers 2010.

Fe ddywedodd fod awdurdodau iechyd Cymru yn ymddwyn fel petai fod y gwersi oedd wedi eu dysgu yn dilyn ymchwiliad i fethiannau a marwolaethau yn Ysbyty Stafford, yn ''stopio ar y ffin''.

Galwodd y gweinidog eto am ymchwiliad annibynnol i gyfraddau marwolaeth mewn ysbytai yng Nghymru.

Roedd yn siarad mewn dadl flwyddyn ers cyhoeddi Ymchwiliad Francis, oedd wedi tanlinellu ''dioddefaint difrifol a diangen'' cannoedd o gleifion yn Ysbyty Stafford.

Mewn ymateb, fe amddiffynnodd llefarydd yr wrthblaid ar iechyd, Andy Burnham, record y Blaid Lafur gyda'r gwasanaeth iechyd, gan ddweud mai ei blaid o oedd yn gyfrifol am reoleiddio annibynnol o fewn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd fod materion pwysig yng Nghymru y dylai Llywodraeth y Cynulliad edrych arnyn nhw, ac fe esboniodd wrth Jeremy Hunt:

"Ga'i awgrymu y byddai pleidleiswyr yn Lloegr yn gwerthfawrogi petai modd i chi dreulio ychydig mwy o amser yn delio gyda'r problemau yma yn hytrach na thanlinellu problemau yno."

Amheuon am fwy o ddatganoli

Yn ystod y ddadl heddiw fe leisiodd Ann Clwyd, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, ei amheuon am ddatganoli unrhyw rymoedd pellach i Gymru, a chodi cwestiynau pellach am gyfraddau marwolaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Wrth annerch Tŷ'r Cyffredin, fe ddywedodd ei bod wedi derbyn ''cannoedd o lythyrau'' gan bobl ar hyd a lled Prydain yn trafod eu profiadau o'r gofal sydd ar gael gan y gwasanaeth iechyd.

Yng Nghymru mae'r gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad, ac fe ddywedodd Ann Clwyd wrth ei chyd-aelodau yn San Steffan y byddai'n meddwl yn galed cyn cefnogi datganoli mwy o rymoedd o Lundain.

Dywedodd Ann Clwyd: "Fyddai ddim yn boblogaidd am ddweud hyn ond mae'n debyg y bydd y Tŷ hwn yn cael cais i roi mwy o rymoedd i Gymru.

"Cyn i ni roi mwy o dir i fwy o rymoedd, ac roeddwn yn gefnogwr brwd o ddatganoli mewn dwy ymgyrch, fe fyddwn yn meddwl yn galed iawn cyn rhoi mwy o rym i'r llywodraethau datganoledig."

'Peryglus o uchel'

Wrth drafod cyfraddau marwolaethau mewn ysbytai yng Nghymru, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol:

"Mae'n ymddangos eu bod yn beryglus o uchel mewn llawer o ysbytai yng Nghymru. Ac mae 'na elfen o ddryswch yn parhau am ba mor gywir ydi'r data. Ond mae'r system sydd yn casglu'r data yn amheus a dweud y lleiaf."

Yn gynharach heddiw fe gyhoeddwyd fod y modd y mae cyfraddau marwolaeth yn cael eu mesur yn ysbytai Cymru yn debyg o gael ei newid.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, yn barod i dderbyn cyngor tasglu sy'n dadlau bod angen newidiadau er mwyn cynnig mwy o eglurdeb i'r cyhoedd.

Bydd y Tasglu Tryloywder yn cyhoeddi'r argymhellion mewn adroddiad yn ddiweddarach, gan alw am fwy o ddata clinigol i fod ar gael i gleifion yn ysbytai Cymru.

Y llynedd fe fuodd Ann Clwyd yn gyfrifol am arwain adolygiad o'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, ac fe ddaeth i'r casgliad fod angen "chwyldro" yn y modd mae'r sefydliad yn ymateb i gwynion.

Er bod ei hadroddiad wedi ei gomisiynau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr dywedodd Mrs Clwyd ei bod yn gobeithio y byddai'r argymhellion yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru hefyd.