Yr Heulfan: annhebygol o ail-agor
- Cyhoeddwyd
Mae'n annhebygol y bydd pwll nofio yn y Rhyl yn ail-agor, yn ôl y Cyngor Sir.
Caeodd yr Heulfan yn y Rhyl, a'r Ganolfan Nova ym Mhrestatyn a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru, pan aeth ymddiriedolaeth Hamdden Clwyd i drafferth ariannol.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn adolygu'r opsiynau ar gyfer y safleoedd, oedd yn cyflogi 120 o staff.
Mae'n annhebygol y bydd y Ganolfan Nova yn ail-agor yn fuan, ond gall y Ganolfan Bowls agor am lai o oriau.
Dyfodol ansicr
Bydd y cyngor yn trafod dyfodol y canolfannau hamdden mewn cyfarfod ar Fawrth 25.
Ond mae cabinet y cyngor eisoes wedi penderfynu tynnu cefnogaeth ariannol gwerth £200,000 ar gyfer 2014/15 yn ôl.
Roedd aelodau o Hamdden Clwyd wedi bod yn trafod gyda'r awdurdod ers tro, ond daeth y trafodaethau i ben heb gytundeb fis diwethaf.
Roedd Hamdden Clwyd wedi stopio masnachu ym mis Chwefror, gan adael 120 o weithwyr yn wynebu dyfodol ansicr.
'Ystyried pob opsiwn'
Dywedodd Rebecca Maxwell, cyfarwyddwr economaidd a chymunedol Sir Ddinbych bod y cyngor wedi ystyried pob opsiwn cyn gwneud yr argymhellion.
"Mae'r gost a'r risg o weithredu'r cyfleusterau yn yr Heulfan wedi bod yn ffactorau pwysig yn yr argymhelliad i beidio ail-agor y ganolfan.
"Roedden ni'n disgwyl y byddai'r offer a'r adeilad mewn cyflwr gwael, ac mae hyn wedi ei gadarnhau.
"Mae'r buddsoddiad fyddai ei angen allan o gyrhaeddiad y cyngor.
"Ni fyddai'n cynnig gwerth am arian ac mae'r Heulfan yn adeilad gyda hyd oes byr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2014