Cymeradwyo cais i achub clwb golff yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Parc Garnant Golf CourseFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwrs ar safle 120 erw

Mae Cyngor Sir Gâr wedi penderfynu cymeradwyo cais i achub Clwb Golff Garnant ger Rhydaman.

Mi allai'r clwb gael ei roi i'r aelodau a hynny ar ôl i'r cwmni oedd yn rhedeg y lle gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Cafodd y cwrs ei adeiladu ar hen safle glo brig ac mi gafodd dros £1 miliwn o arian cyhoeddus ei fuddsoddi yn y lle.

Y cyngor oedd bia'r safle am gyfnod tan iddyn nhw ofyn i gwmni preifat gymryd yr awenau sef Clay's o Wrecsam.

Cytunwyd ar gytundeb 25 mlynedd oedd yn cynnwys cymhorthdal o £160,000.

Ond fe aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr yn fuan wedi i'r cymhorthdal ddod i ben.

Mae'r cyngor wedi dweud yn y gorffennol na fyddai cymhorthdal yn cael ei roi ac na fyddai unrhyw gost ychwanegol i'r trethdalwyr os bydd y clwb yn cael ei roi i'r aelodau.

Fe fydd y cais nawr yn mynd gerbron y cyngor llawn, ac os fyddan nhw'n cydsynio bydd yn cael ei gyflwyno i aelodau'r clwb yn ystod eu cyfarfod cyffredinol blynyddol.

Yr aelodau hynny fydd gyda'r gair olaf ar y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol