Dod o hyd i gorn hynafol yn Ninas Dinlle

  • Cyhoeddwyd
Corn hynafolFfynhonnell y llun, Stephen Bristow
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ychen hirgorn yn fath o wartheg oedd yn ddau fetr o uchder

Gallai corn anifail sydd wedi ei ddarganfod ar draeth yng Ngwynedd fod hyd at 3,000 o flynyddoedd oed.

Cafodd y corn ei ddarganfod gan Derfel Hughes wrth iddo gerdded ar hyd traeth Dinas Dinlle ger Caernarfon.

Mae arbenigwyr yn credu y gallai fod yn gorn anifail sydd wedi diflannu, yr Ychen Hirgorn.

Diflannodd yr anifail, sy'n perthyn i wartheg, yn y 17eg ganrif.

Rhoddodd Mr Hughes y corn i Barc Gwledig Greenwood yn y Felinheli lle y gallai gael ei arddangos.

Y gred yw bod y corn wedi dod i'r amlwg wedi'r tywydd garw diweddar.

Dywedodd Mr Hughes wrth bapur newydd y Daily Post mai lwc oedd darganfod y corn.

"Roeddwn i'n digwydd bod yn y lle cywir ar yr adeg gywir."

Roedd yr ychen hirgorn yn fath o wartheg oedd yn ddau fetr o uchder a bu farw'r anifail olaf yng Ngwlad Pwyl yn 1627.