Celf o'r Oes Efydd yn 'drysor'

  • Cyhoeddwyd
Dwy fwyell efydd gafodd eu claddu tua 2,000 CCFfynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod y ddwy fwyell efydd wedi cael eu claddu tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl

Mae Dirprwy Grwner Sir Benfro wedi cyhoeddi mai trysor yw celc o'r Oes Efydd Cynnar gafodd ei ddarganfod yn Sir Benfro yn 2011.

Cafodd y celc ei ddarganfod gan Tom Baxter a Luke Pearce yn Nyfer. Y nhw sydd nawr yn berchen y trysor.

Y gred yw bod y ddwy fwyell efydd wedi cael eu claddu tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd y ddau ddyn yn chwilio trwy gae gyda dyfais dod o hyd i fetel.

Cafwyd hyd i'r bwyelli o fewn tri metr i'w gilydd.

Ymchwiliad archeolegol

Mae un fwyell yn syml a main ac yn enghraifft o waith efydd traddodiad.

Mae gan y llall - sydd ychydig yn fwy byr - fwy o waith patrwm, gan gynnwys ymylon wedi'u morthwylio ac addurn 'patrwm glaw' o'r carn i'r llafn.

Parhau yn ddirgelwch yw'r rheswm dros gladdu'r ddwy fwyell.

Mae'r darganfyddiad newydd hefyd yn rhan o glystyru ehangach o fwyelli efydd cynnar yng ngogledd orllewin Sir Gaerfyrddin a gogledd ddwyrain Sir Benfro.

Dywedodd Adam Gwilt, Curadur Casgliadau Oes Efydd Amgueddfa Cymru: "Mae'r bwyeill efydd cynnar hynyn bwysig i Gymru ac yn rhoi darlun i ni o ddatblygiad arbenigedd castio efydd tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Mae'r man darganfod hwn ar ffiniau gogleddol Mynydd Preseli mewn ardal gynhanesyddol ddefodol-gyfoethog.

"Mae'r celc yn cyfrannu at y darlun ehangach o fywydau cymunedau metelwaith cynnar yr ardal ar ddechrau'r Oes Efydd."

Mae Amgueddfa Cymru wedi datgan eu bod yn awyddus i gael y bwyelli, yn dilyn prisiad annibynnol ohonynt.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol