Cyngor Môn yn derbyn £16.7m i ad-drefnu ysgolion y sir

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Y Graig Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn wedi derbyn £16.7m gan y Llywodraeth i fwrw ymlaen gydag ad-drefnu ysgolion y sir ac adeiladu ysgolion newydd tebyg i Ysgol Y Graig yn Llangefni

Mi fydd mwy o ysgolion yn cau ar Ynys Môn wrth i'r Cyngor Sir dderbyn arian gan y Llywodraeth, i fwrw ymlaen gyda'u rhaglen foderneiddio.

Mae'r cyngor wedi llwyddo i gael grant o £16.7m gan lywodraeth Cymru, gyda'r awdurdod yn darparu'r un swm, er mwyn sicrhau buddsoddiad o £33m ym maes isadeiledd ysgolion dros y pum mlynedd nesaf.

Gyda'r cyllid yn ei le, mae'r cyngor o'r farn y gallan nhw wireddu eu gweledigaeth tymor hir i sicrhau bod ysgolion yr ynys yn cwrdd ag anghenion yr 21ain ganrif.

Ysgolion 21ain Ganrif

Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Ieuan Williams, yw deilydd portffolio addysg ar yr Ynys ac roedd yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ddysgu plant mewn ysgolion sy'n cwrdd â safonau a disgwyliadau'r 21ain ganrif, dolen allanol.

Meddai: "Mae hyn yn golygu bod rhaid i adeiladau fod yn addas, yn y lle iawn, cwrdd ag anghenion disgyblion ac yn datblygu'n adnodd gwerthfawr at ddefnydd y gymuned."

"Rydym wedi ein beirniadu gan Estyn yn y gorffennol am beidio â chyflwyno cynlluniau digon uchelgeisiol ar gyfer dyfodol darpariaeth addysg. Mae gennym nawr gynllun hynod uchelgeisiol ar gyfer dyfodol addysg ym Môn."

Rhaglen Hir Dymor

Yn mis Ionawr fe gymeradwyodd Pwyllgor Gwaith y Cyngor raglen foderneiddio newydd ac achos busnes dros y 15 mlynedd nesaf sydd werth £173m. Cafodd ei asesu gan lywodraeth Cymru gyda chyllid ar gyfer rhan un yn cael ei glustnodi'r mis diwethaf.

Bydd y rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cynnwys cymysgedd o adeiladau newydd, uno ysgolion, ad-drefnu dalgylchoedd a chau adeiladau anaddas. Mae hefyd yn bwriadu taclo'r nifer uchel o lefydd gweigion mewn ysgolion gyda'r ardaloedd â'r nifer uchaf o lefydd gweigion yn derbyn blaenoriaeth.

Ymgynghori i ddod

Bydd rhan un yn canolbwyntio ar Ynys Cybi (Gogledd), De Ddwyrain Môn, Arfordir De Orllewin a'r Llannau gydag ymgynghori eang i ddilyn dros y misoedd nesaf er mwyn rhoi cyfle i swyddogion addysg gyflwyno opsiynau posib.

Eglurodd Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Môn, Dr Gwynne Jones; "Yr egwyddor sylfaenol yw gweld Môn yn datblygu'n un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru gydag ysgolion a darpariaeth addysg o'r radd flaenaf."

Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o ysgolion llai'r sir wedi eu cau oherwydd nad oedd digon o blant yn mynd iddyn nhw a gormod o lefydd gweigion.

Mae'r rhain yn cynnwys Ysgol Aberffraw, Llanddeusant, Llandrygarn a Tŷ Mawr (Capel Coch).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol