Galw ar Ann Clwyd i rannu tystiolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cynrychiolydd nyrsys yng Nghymru wedi galw ar Ann Clwyd i rannu unrhyw dystiolaeth sydd yn ei meddiant ynglŷn â chleifion yn derbyn gofal gwael yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn ôl Tina Donnelly, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys (CBN), does dim modd ymchwilio i honiadau Ms Clwyd os nad yw hi'n fodlon datgelu'r manylion.
Mae AS Cwm Cynon wedi dweud yn gyhoeddus ei bod wedi derbyn cannoedd o lythyrau gan gleifion sy'n honni iddyn nhw dderbyn gofal gwael mewn ysbytai yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw dystiolaeth fyddai'n sail ar gyfer ymchwiliad.
'Rhaid gweld y ffeithiau'
Mewn cyfweliad gyda Vaughan Roderick ar Sunday Supplement, dywedodd Ms Donnelly: "O'n safbwynt ni yng Nghymru rydym yn gweld ffigwr cyhoeddus amlwg yn beirniadu GIG Cymru drwy'r adeg ac rydw i'n teimlo bod rhaid i ni weld y ffeithiau..."
Mae Ms Clwyd yn dweud ei bod hi wedi derbyn llythyrau yn son am ddiffygion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Yn y cyfweliad ar Radio Wales, mae Ms Donnelly yn esbonio pan fod CBN wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth i weld adroddiad am y gofal roedd gŵr Ms Clwyd, Owen Roberts, wedi ei dderbyn.
Bu farw Mr Roberts ym mis Rhagfyr 2012 ar ôl cael ei drin fel "battery hen" yng ngeiriau Ann Clwyd, yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd Ms Donnelly: "Mewn perthynas â'r sefyllfa lle mae adroddiadau bod nyrsys yn ddi-hid ac yn trin pobl mewn modd annerbyniol, mae wir yn hollbwysig fod y bobl yna'n cael eu dwyn i gyfrif os yw'n cael ei brofi.
"Ond mae'n rhaid i'r unigolion yna gael cyfle i ddweud eu dweud, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu hymchwilio."
Cais rhyddid gwybodaeth
Mae Ann Clwyd yn dweud nad oes modd iddi ryddhau'r wybodaeth heb dorri'r Ddeddf Diogelu Data, ond ei bod wedi darparu cynnwys y manylion i'r Prif Weinidog Carwyn Jones.
Nid oes modd ymchwilio i'r wybodaeth, yn ôl Mr Jones, cyn belled a bod y bobl sy'n gwneud yr honiadau yn parhau i fod yn ddienw.
Yr wythnos ddiwethaf fe alwodd Ms Clwyd ar benaethiaid Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i ymddiswyddo, gan ddweud eu bod nhw wedi rhyddhau manylion preifat am farwolaeth ei gŵr - manylion roedd hi wedi ei wneud yn glir doedd hi ddim am eu rhyddhau.
Ond roedd Ms Donnelly'n dadlau bod y wybodaeth yma eisoes ar gael yn gyhoeddus.
Dywedodd: "Rwy'n deall bod adroddiad wedi bod i'r bwrdd iechyd yn benodol ar y materion gafodd eu codi ar lawr Tŷ'r Cyffredin, a'u bod nhw wedi cael eu hadrodd amdanyn nhw'r flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'n flwyddyn wedyn ac mae'r materion yn parhau i gael eu codi yn y wasg.
"Mae'n rhaid ei fod yn achosi pryder anferth i gleifion sydd eisiau dod mewn i Ysbyty'r Heath... mae angen ffydd yn y system yna ac mae'n rhaid i ni wneud hyn yn glir i'r cyhoedd.
"Yr hyn rydym wedi ei dderbyn gan y bwrdd iechyd yw ymateb i bob un o'r pwyntiau gafodd eu codi yn Nhŷ'r Cyffredin, yn y parth cyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014