Band eang ffibr i chwe chyfnewidfa
- Cyhoeddwyd
Yn ystod ymweliad â chanolfan band eang Cyflymu Cymru mae'r dirprwy weinidog Sgiliau a Thechnoleg Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd chwe chyfnewidfa yn dechrau darparu ffibr cyflym yr wythnos yma.
Y chwe chyfnewidfa yw Moelfre, Y Fali a Llangoed (i gyd ar Ynys Môn), Merthyr Tudful ac Ynysowen (ym Merthyr Tudful), a Dyffryn Ogwr.
Fe fydd hyn yn darparu band eang ffibr i tua 30,000 o gartrefi a busnesau yn yr ardaloedd yma am y tro cyntaf.
Mae'r datblygiad yn rhan o gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod gan 96% o adeiladau Cymru fynediad i fand eang ffibr erbyn diwedd gwanwyn 2016.
'Cymru ar y blaen'
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Ken Skates AC:
"Mae ein cynlluniau ar gyfer ffibr cyflym y rhai mwyaf uchelgeisiol yn y DU, gan ddarparu band eang cyflymach i fwy o safleoedd yn gynt.
"Ym mis Ionawr, cyhoeddais fod 100,000 o safleoedd wedi'u cysylltu eisoes, ac erbyn i'r prosiect ddod i ben yn 2016, bydd gan 96% o Gymru fynediad i fand eang ffibr cyflym o ganlyniad i gyflwyno yn fasnachol a Cyflymu Cymru.
"Bydd hynny yn golygu y bydd Cymru ar y blaen, nid yn unig i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond hefyd yr UDA a Siapan."
'Angen cydweithio'
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen BT ar gyfer Cyflymu Cymru:
"Mae Canolfan Cyflymu Cymru yn dangos y bartneriaeth hon ar waith. Mae angen i Lywodraeth Cymru a thimau BT gydweithio'n agos ar brosiect cymhleth fel hwn, ac mae rhannu man gwaith yn ffordd effeithiol o gyflawni hyn.
"Dyma un o'r ffyrdd y mae'n bosibl inni ddarparu band eang ffibr i ardaloedd fel Merthyr Tudful dri mis yn fuan."
Mae Cyflymu Cymru yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni BT gyda'r bwriad o fynd â band eang ffibr i rannau o'r wlad sydd heb eu cynnwys mewn cynlluniau masnachol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013