Llafur yn atal Clwyd rhag rhoi tystiolaeth i bwyllgor
- Cyhoeddwyd
Mae gwrthbleidiau wedi beirniadu Aelodau Cynulliad Llafur am rwystro AS y blaid Ann Clwyd rhag ymddangos o flaen pwyllgor iechyd y Cynulliad.
Mae AS Cwm Cynon wedi bod yn feirniadol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dilyn triniaeth gafodd ei gŵr.
Pleidleisiodd aelodau'r pwyllgor yn erbyn cynnig Plaid Cymru i'w galw i drafod ei phryderon am y gwasanaeth.
Dywedodd aelodau'r gwrthbleidiau bod y penderfyniad yn "warthus" ac yn "sinigaidd".
Ond dywedodd Llafur y byddai'n "amhriodol yn gyfansoddiadol" i bwyllgor glywed tystiolaeth gan AS o'r meinciau cefn ar fater sydd wedi ei ddatganoli.
'Dim tystiolaeth'
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd gan Ms Clwyd y dystiolaeth i gefnogi ei beirniadaeth o'r gwasanaeth.
Dywedodd nad oedd y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno yn ddigon i'r llywodraeth na'r GIG ymchwilio i'w honiadau o ofal gwael.
Ond mae Ms Clwyd wedi mynnu ei bod wedi rhoi manylion am gwynion gafodd eu gwneud yn erbyn ysbytai Cymru tra ei bod yn arwain ymchwiliad i ysbytai yn Lloegr ar ran Llywodraeth y DU.
Gofynnodd David Cameron i Ms Clwyd arwain yr ymchwiliad wedi iddi honni bod ei gŵr wedi treulio 27 awr ar droli cyn iddo farw yn 2012.
'Atal trafodaeth'
Ddydd Mercher, wedi i ASau Llafur lwyddo i wrthod cynnig i Ms Clwyd roi tystiolaeth i'r pwyllgor, cawson nhw eu cyhuddo gan Blaid Cymru o "atal trafodaeth".
Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Elin Jones: "Mae'n warthus bod Llafur wedi pleidleisio i rwystro cyfle i'r pwyllgor drafod y gwaith yma.
"Mae Ann Clwyd wedi casglu gwybodaeth werthfawr ar y GIG o safbwynt y claf o'r gwaith y mae hi wedi ei wneud.
"Gallai hwn wedi bod yn gyfle pwysig i rannu ei chanfyddiadau a byddai wedi galluogi'r pwyllgor i archwilio ei gwaith yn nhermau'r wybodaeth sydd wedi ei gasglu o gleifion yng Nghymru."
'Cais sinigaidd'
Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Llafur o roi "buddiannau'r blaid" cyn "mynd at wraidd problemau'r GIG yng Nghymru".
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Byddai gwahodd Ann Clwyd i roi tystiolaeth i'r Cynulliad yn rhoi cyfle i ACau glywed ei barn ar gyfraddau marwolaeth ysbytai, a phrofiadau cleifion y mae hi wedi ei dderbyn.
"Mae hwn yn gais sinigaidd gan Lafur i guddio tystiolaeth am fethiannau'r GIG yng Nghymru."
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn "warthus" bod ACau Llafur yn "gwrthod gwrando ar bryderon Ann Clwyd".
"Mae angen i Lafur stopio cymryd beirniadaeth Ms Clwyd yn bersonol, ac yn hytrach gweithio i wella ein gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae'r gwahaniaeth mewn ymateb i stori drist Ann Clwyd yn amlwg.
"Tra bod clymblaid y DU wedi gofyn iddi arwain ymchwiliad, mae Llywodraeth Lafur Cymru, oedd yn gyfrifol am ofal ei gŵr, yn penderfynu ei hanwybyddu."
'Amhriodol'
Wrth ymateb ar ran Llafur Cymru dywedodd Leighton Andrews AC:
"Mae Ann Clwyd mewn cysylltiad â'r Prif Weinidog a'r gweinidog iechyd ac wedi cyflwyno'r wybodaeth sydd ganddi iddyn nhw.
"Fel y mae Ann ei hun wedi dweud, mae mwyafrif y wybodaeth sydd ganddi'n ymwneud â Lloegr ac mae'r wybodaeth sy'n berthnasol i Gymru yn ddienw a heb lawer o fanylion.
"Gofynnodd y prif weinidog i Ann Clwyd i ystyried cwynion am y GIG yn Lloegr - doedd ei maes llafur ddim yn ymestyn i Gymru.
"Mae aelodau'r gwrthbleidiau yn gwbl ymwybodol y byddai'n amhriodol yn gyfansoddiadol o bwyllgor iechyd holi aelod seneddol o'r meinciau cefn ar faterion sydd wedi eu datganoli.
"Yn hytrach na cheisio creu dadl yn y modd yma, dylai'r gwrthbleidiau ganolbwyntio ar ddefnyddio amser y pwyllgor i sicrhau bod y GIG yn darparu'r gofal gorau posib i Gymru gyfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014