Trais yn y cartref: Pryder am heddluoedd Gwent a'r Gogledd

  • Cyhoeddwyd
trais yn y cartref

Mae cyfres o adroddiadau gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn beirniadu'r ffordd y mae rhai o heddluoedd Cymru'n delio â thrais yn y cartref.

Roedd adroddiad HMIC yn edrych ar luoedd heddlu Cymru a Lloegr ac, ar y cyfan, daeth i'r casgliad nad yw'r ymateb i achosion yn ddigon da, a'r prif resymau am hyn yw "methiannau annerbyniol yng ngweithgareddau craidd yr heddlu".

Cafodd Heddluoedd De Cymru a Dyfed-Powys eu canmol, ond mae'r adroddiad yn nodi gwendidau gan heddluoedd Gogledd Cymru a Gwent.

Mae'r ddau heddlu wedi dweud eu bod yn gweithio i geisio gwella'r sefyllfa.

Trais yn y cartref

Mae achosion o drais yn y cartref yng Nghymru wedi cael cryn sylw dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd Rachel Williams ei saethu gan ei chyn ŵr yn 2011. Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) y gall yr achos fod wedi cael ei osgoi.

Cafodd achos Carl Mills, y dyn lofruddiodd dair cenhedlaeth o'i deulu ei hun mewn tan yn 2012, ei gyfeirio at yr IPCC hefyd, oherwydd bod yr heddlu wedi eu galw i'r fflat yng Nghwmbrân o'r blaen.

Yn 2009, cafodd Joanna Michael ei lladd gan ei chyn gariad Cyron Williams, er iddi ddeialu 999 ddwywaith. Fe gymerodd hi 22 munud i'r heddlu gyrraedd ei chartref yn Llaneirwg.

Daeth yr IPCC i'r canlyniad bod Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, oedd wedi derbyn y galwadau, wedi methu yn eu dyletswydd i'r fam i ddau o blant.

Gwent

Roedd 3,828 o achosion yn ymwneud â thrais yn y cartref yn ardal Heddlu Gwent rhwng Awst 2012-13. O'r rhain, bu cyhuddiad yn 23% o'r achosion, rhybudd yn 7% ac fe gafodd 33% o'r achosion eu datrys y tu allan i'r llys.

Pryder HMIC oedd nad oes gan Heddlu Gwent bolisi trais yn y cartref na chanllawiau ar sut i ymateb i achosion, ac nad oes modd sicrhau cysondeb with ymateb i ddioddefwyr cyson neu fregus.

Roedd pryder hefyd am ddealltwriaeth staff, ac effaith hynny ar safon y gwasanaeth i ddioddefwyr.

Er hynny, roedd canmoliaeth i'r system i sicrhau ymateb cyflym gan yr heddlu, ond dywedon nhw ei fod yn cael ei danseilio gan ddiffygion yr yn ystafell reoli.

Dywedodd Heddlu Gwent bod taclo trais yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a'u bod yn "gweithio'n galed i wneud y newidiadau angenrheidiol".

De Cymru

Yn ne Cymru, bu 6,370 achos o drais yn y cartref rhwng Awst 2012-13, gyda 47% yn arwain at gyhuddiad, 7% yn arwain at rybudd ac 1% yn cael ei ddatrys y tu allan i'r llys.

Roedd canmoliaeth i wasanaethau Heddlu'r De, gyda staff medrus a thechnoleg effeithiol yn helpu i adnabod dioddefwyr a throseddwyr cyson.

Er hynny, roedd HMIC yn poeni bod yr uned arbenigol wedi ei gorymestyn o ran llwyth gwaith. Roedd pryder nad oedd yr uned yn gallu delio gyda'r holl alwadau, neu fod oedi mewn ymateb.

Heddlu De Cymru oedd yn ail ar y rhestr o'r lluoedd â'r nifer ucha' o gyhuddiadau ledled Cymru a Lloegr yn dilyn achosion o drais yn y cartref.

Fe ddywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n "croesawu'r adroddiad, ac yn ymrwymo i daclo trais yn y cartref a gwella'n darpariaeth yn gyson. Mae lle i wella eto, ond fel llu, rydym ni eisoes yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid a dioddefwyr trais yn y cartref."

Dyfed Powys

Bu 1,346 o achosion o drais yn y cartref yn ardal Dyfed Powys rhwng Awst 2012-13. Bu cyhuddiad yn dilyn 29% o'r rheiny, rhybudd yn dilyn 23% a chafodd 1% eu datrys y tu allan i'r llys.

Roedd yr adroddiad yn canmol Heddlu Dyfed Powys, gan ddweud bod taclo trais yn y cartref yn flaenoriaeth, a hynny'n cael ei adlewyrchu yn niwylliant holl lefelau'r sefydliad.

Meddai HMIC, gall y cyhoedd yn ardal Dyfed Powys fod yn hyderus bod eu heddlu lleol wedi ymrwymo i ddarparu ymateb da i achosion o drais yn y cartref.

Er hyn, mae diffyg dealltwriaeth ymysg staff am ystyr y term 'trais yn y cartref'. Dyw staff heb dderbyn hyfforddiant penodol ers nifer o flynyddoedd.

Gogledd Cymru

Yng ngogledd Cymru, roedd 3,992 o achosion o drais yn y cartref rhwng Awst 2012-13. Fe arweiniodd 29% at gyhuddiad, 6% at rybudd a chafodd 2% eu datrys y tu allan i'r llys.

Yn ôl HMIC, mae Heddlu'r Gogledd yn ymateb yn dda i achosion lle mae dioddefwyr yn wynebu risg uchel o niwed, ond dyw'r gwasanaeth ddim cystal i rai sy'n derbyn asesiad risg isel.

Roedd pryder nad oes cynllun yn ei le i sicrhau cysondeb wrth adnabod dioddefwyr neu droseddwyr cyson, a diffyg dealltwriaeth o ystyr y term 'trais yn y cartref'.

Fe ddywedodd Heddlu'r Gogledd fod ganddyn nhw "swyddogion arbenigol yn gweithio'n galed i ddiogelu dioddefwyr a sicrhau cyfiawnder iddyn nhw", ond bod angen parhau i wella.