Cytundeb gwerth £6m i'r Bathdy Brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Welsh Secretary Cheryl Gillan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cheryl Gillan yn ymweld â Gwlad Thai, Cambodia a Singapore ar ei thaith

Cafodd cytundeb gwerth £6 miliwn i'r Bathdy Brenhinol ei arwyddo yng Ngwlad Thai wrth i Ysgrifennydd Cymru fynd yno fel rhan o daith o Dde-ddwyrain Asia.

Bydd y cytundeb yn golygu y bydd y bathdy yn Llantrisant yn darparu 500 miliwn o ddarnau 1 Baht i drysorlys Gwlad Thai.

Disgrifiodd Mrs Gillan y cytundeb fel "carreg filltir" oedd yn newyddion gwych i Brydain.

Bydd hefyd yn ymweld â Chambodia a Singapore gyda'r nod o hybu cysylltiadau masnach a thwristiaeth ynghyd â chryfhau cysylltiadau diplomateg.

Dywedodd Mrs Gillan: "Wrth arwyddo'r cytundeb yma sy'n garreg filltir rhwng Trysorlys Gwlad Thai a'r Bathdy Brenhinol yng Nghymru, rydym wedi cryffhau'r berthynas rhwng y ddwy wlad ymhellach.

"Mae'r Jiwbilî Ddiemwnt, y Gemau a Pharalympaidd yn rhoi llwyfan byd-eang i'r DU i ddangos beth sydd mor wych amdani."

Mae'r Bathdy Brenhinol wedi cael blwyddyn lwyddiannus mewn sawl maes.

Enillodd y cytundeb i gynhyrchu'r medalau ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain.

Roedd hefyd yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu'r sêl Gymreig gyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr yn dilyn y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad yn 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol