Cymru yn barod i wneud cais Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm y MileniwmFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y byddai gemau Euro 2020 yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn dweud y bydd cael cystadleuaeth yr Uefa Super Cup yng Nghaerdydd yn yr haf yn hwb i gais y ddinas i gynnal Euro 2020.

Dywedodd Jonathan Ford y bydd cynnal y Super Cup, gêm rhwng enillwyr Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa, ar Awst 12 yn "ymarferiad o'r hyn y gallwn ni ei wneud".

Bydd yr FAW yn cyflwyno cais Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd i gynnal Euro 2020 cyn y dyddiad cau ddydd Gwener.

Am y tro cyntaf, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn mwy na dwy wlad, pan fydd Uefa yn dewis 13 o ddinasoedd i gynnal gemau.

'Rhoi pob cyfle'

Mae Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon hefyd yn awyddus i fod yn rhan o'r gystadleuaeth, sydd rhwng 24 o dimau gwledydd Ewrop.

Yn ôl Mr Ford, mae angen dangos rhinweddau Caerdydd pan fydd y Super Cup yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod ni yn gwneud pob dim y gallwn ni i sicrhau bod y Super Cup yn llwyddiant," meddai, "ac ein bod ni yn rhoi pob cyfle i'n hunain gael ein dewis ar gyfer un o'r dinasoedd i gynnal Euro 2020."

Bydd Uefa yn penderfynu ym mis Medi pa ddinasoedd fydd yn cael eu dewis.

Ychwanegodd Mr Ford bod yr FAW wedi dod i gytundebau gyda'r awdurdodau perthnasol i gynnal gemau Euro 2020 yn Stadiwm y Mileniwm, os cawn eu dewis.

"Mae llawer o waith wedi mynd i mewn i hyn," meddai.

"Mae angen i'r cais gyd-fynd gyda gofynion Uefa ynglŷn â gwestai ac isadeiledd llety, gofynion teithio, pob math o bethau.

"Mae llawer iawn o bethau sydd angen eu sortio, a dyna yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y chwe mis i flwyddyn ddiwethaf.

"Dydd Gwener yw'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais a dwi'n meddwl y byddech chi yn gweld datganiad gennym ni tua'r adeg yna."