Cymdeithas Bêl-Droed Cymru'n obeithiol o fod yn rhan o gynlluniau Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Sbaen yn dathlu ennill Euro 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Sbaen yn dathlu ennill Euro 2012

Mae'r cynnig i gynnal pencampwriaeth Euro 2020 mewn nifer o ddinasoedd yn Ewrop yn rhoi hwb i ymdrech Cymru i gynnal y bencampwriaeth, yn ôl pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Llywydd Uefa, Michel Platini, wedi awgrymu y gall Euro 2020 gael ei gynnal mewn "12 neu 13 o wledydd".

Mae Cymru eisoes wedi datgan yn gyhoeddus eu dymuniad i gynnal y bencampwriaeth ar y cyd ag Iwerddon a'r Alban.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Jonathan Ford, eu bod am weld Caerdydd "yn un o'r dinasoedd sy'n cynnal y bencampwriaeth" o dan gynlluniau Platini.

"Dwi'n credu bod 2020 yn gyfle gwirioneddol wych i ni," meddai.

'Blaenoriaeth'

"Rydym yn bendant, rwy'n sicr, am gyflwyno datganiad o'n diddordeb, fel yr ydym wedi ei wneud gyda'r gwledydd Celtaidd, er mwyn sicrhau ein bod yn cael gweld y pêl-droed gorau yma yng Nghymru."

Dywedodd bod cynnal pencampwriaethau Uefa yng Nghymru yn un o'i flaenoriaethau ers cychwyn rheoli'r Gymdeithas yn 2009.

Methodd ei ragflaenydd, David Collins, a sicrhau bod rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr na Chwpan Uefa yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm.

Ond mae Mr Ford wedi cael peth llwyddiant.

Fe fydd Super Cup Uefa yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2014 a bydd Pencampwriaeth Merched dan 19 oed Uefa yn cael ei chynnal yng Nghymru yn 2013.

"Bydd y rhain yn rhoi prawf i Gymru ac yn gyfle gwych i'r Gymdeithas Bêl-droed brofi bod modd cynnal digwyddiadau enfawr," meddai Mr Ford.

"Dydyn ni ddim yn unig eisiau hyrwyddo Caerdydd fel prifddinas, ond Cymru hefyd, dangos i'r byd be allwn ni wneud a bod modd cynnal y pêl-droed gorau yma.

"Y mwya' fyddwn ni'n ei wneud, y mwya' o gyfle fydd 'na i gynnal rhai o'r prif bencampwriaethau."

Twrci ydi'r ffefrynnau i gynnal y bencampwriaeth yn 2020.

Ond mae 'na anawsterau yn eu cais gan eu bod yn dymuno cynnal y Gemau Olympaidd yn Istanbul yr un flwyddyn.

Fe fydd y bencampwriaeth yn Ffrainc yn 2016.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol