Catrin Pugh yn gwella o'i hanafiadau

  • Cyhoeddwyd
Catrin Pugh

Mae merch o ardal Wrecsam fu mewn damwain ffordd ddifrifol yn Ffrainc y flwyddyn ddiwethaf wedi gwella i'r fath raddau ei bod yn gwneud cynlluniau i fynd i'r brifysgol.

Cafodd Catrin Pugh, sydd bellach yn 20 ac sy'n byw ym mhentre'r Orsedd, losgiadau i 96% o'i chorff yn dilyn y ddamwain fws yn yr Alpau.

Fe dreuliodd dri mis mewn uned gofal ddwys ac mae hi bellach wedi derbyn dros 200 o driniaethau yn Ysbyty Whiston yng Nglannau'r Mersi.

Bu farw'r gyrrwr 63 oed o Northumberland yn y ddamwain ac roedd Catrin ymysg tri o Brydain gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae hi'n cofio gweld "popeth yn mynd ar dân" ac yna gorwedd wrth ochr y lon yn "sgrechian mewn poen".

"Y peth nesa' 'dw i'n gofio yw deffro yn yr uned losgiadau yn Whitson dri mis yn ddiweddarach," meddai.

Roedd "dyddiau tywyll" yn ystod yr adeg honno, yn ôl Ms Pugh, ac roedd cyfnodau lle nad oedd hi'n "gallu gweld dyfodol".

Ond mae hi bellach wedi gwella digon i geisio mynd i'r brifysgol yn 2015 er mwyn gweithio tuag at gael gyrfa fel athrawes neu therapydd galwedigaethol.

Doedd gan y meddygon oedd yn trin Ms Pugh ddim llawer o obeithion y byddai hi'n goroesi ei hanafiadau'n wreiddiol, ac fe ddywedodd yr ymgynghorydd fuodd yn ei thrin nad oedd o erioed wedi gweld neb yn cael y fath anafiadau ac yn byw.

Bu Ian James yn edrych ar ôl Ms Pugh, gan wneud yn siŵr bod ei chroen yn cael y cyfle gorau i wella tra roedd hi'n derbyn triniaeth.

Mae disgwyl iddi barhau i fynd i'r ysbyty am rhyw flwyddyn arall.

Mae Ms Pugh wedi bod yn rhoi'r newyddion diweddaraf ynglŷn â'i gwellhad trwy gyfrwng gwefannau cymdeithasol.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd lun ohoni ei hun yn cerdded, gyda'r neges: "Edrychwch be 'dw i yn gallu ei wneud!"

Mae hi wedi diolch i'w theulu, ffrindiau a'r staff meddygol sydd wedi bod yn ei chynorthwyo, gan ychwanegu ei bod yn ddiolchgar i'r holl bobl sydd ddim yn ei 'nabod sydd wedi bod yn dymuno'n dda iddi.