Awyr agored: £481m i'r economi
- Cyhoeddwyd
Mae twristiaeth awyr agored yng Nghymru yn werth £481 miliwn i'r economi ac yn cynnal 8,243 o swyddi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan Croeso Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Twristiaeth Gweithgareddau Cymru (WATO) sy'n cynrychioli dros 600 o ddarparwyr gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.
Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys dringo a mynydda a phob math o weithareddau ar ddŵr megis canŵio, cayacio, syrffio a deifio. Mae hefyd yn cynnwys beicio, ogofa a pharagleidio.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y sector yn gwneud cyfraniad o 10% i economi twristiaeth Cymru.
Mae ymwelwyr sy'n dod yma am y dydd yn gwario cyfanswm o £220 miliwn; ymwelwyr domestig sy'n aros y nos yn cyfrannu £236 miliwn ac ymwelwyr rhyngwladol dros nos yn gwario £24 miliwn.
Proffil uchel
Roedd yr arolwg yn cynnwys busnesau gweithgareddau awyr agored yn ogystal â'r rhai sy'n cymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.
O'r rhai sy'n cymeryd rhan mewn gweithgareddau, dywedodd 54% o'r rhai a oedd yn aros dros nos, na fydden nhw wedi ymweld â Chymru os nad oedden nhw'n cymeryd rhan yn y gweithgareddau, gan awgrymu bod gweithgareddau awyr agored yn elfen bwysig wrth ddenu ymwelwyr i Gymru.
Roedd 54% o'r busnesau a arolygwyd yn teimlo fod pobl yn fwy ymwybodol o weithgareddau awyr agored yn y dair mlynedd ddiwethaf.
Y rheswm am hyn oedd digwyddiadau a chystadlaethau proffil uchel, sylw gan y cyfryngau, darparu gweithgareddau newydd fel cyfleusterau beicio mynydd ac atyniad 'Zip World' newydd yn Eryri.
'Gwella'r amgylchedd'
Meddai Edwina Hart y Gweinidog Twristiaeth: "Mae Cymru'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored, ac mae'r cyfle i ymwelwyr gael anturiaethau yn bwysig wrth ddenu ymwelwyr i Gymru.
"Mae'r sector hon wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn ddiweddar oherwydd y galw am brofiadau a gwyliau ar gyfer ffordd arbennig o fyw.
"Mae'r sector hefyd yn rhoi manteision i bobl Cymru trwy ddarparu gweithgareddau hamdden a thrwy wella'r amgylchedd leol yn ogystal â chyfrannu at ein nod o wella iechyd y genedl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2014