Agor tŵr gwylio gweilch Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Twr gwylioFfynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r twr yn rhoi golygfeydd o Ddyffryn Dyfi ac ymhellach

Bydd tŵr gwylio newydd gwerth £1.4miliwn yn cael ei agor yn ddiweddarach gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn fel rhan o Brosiect Gweilch Dyfi.

O'r llawr gwylio uchaf sydd 10m uwchben Cors Dyfi ger Machynlleth, mae modd cael golygfa banoramig 360 gradd o Ddyffryn Dyfi a mynyddoedd Pumlumon a Pharc Cenedlaethol Eryri tu hwnt.

Gweledigaeth

Meddai Emyr Evans, Rheolwr Prosiect 360: "Mae gennym gyfleuster o'r radd flaenaf fydd yn ein galluogi i gysylltu pobol â natur yn well nag erioed o'r blaen yng Nghymru.

"Mae'n datblygu ein gweledigaeth o wella perthynas pobol â natur a dysgu am fyd natur o'n cwmpas.

"Mae'r tŵr gwylio yn mynd â gwylio a dysgu am fywyd gwyllt i lefel uwch, yn llythrennol."

Ffynhonnell y llun, Montgomeryshire Wildlife Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch yn gwylio eu nyth o safle arbennig

Bydd tîm o staff a gwirfoddolwyr yn cynorthwyo'r ymwelwyr ac yn dehongli beth sydd i'w weld a'i glywed o'u cwmpas.

Mae nifer o fyrddau gwybodaeth newydd wedi eu gosod hefyd er mwyn dangos ac esbonio'r holl blanhigion ac anifeiliaid y gellir eu gweld yn y warchodfa.

Fe ddychwelodd y gweilch Maldwyn a Glesni i'r safle ym mis Ebrill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol