6.8% yn ddi-waith, ond mwy yn 'economaidd anactif'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd o bobl di-waith yng Nghymru yn 6.8% rhwng Ionawr a Mawrth 2014 - yr un lefel a Lloegr a'r DU i gyd.
Mae'r ffigwr yn ostyngiad o 0.3% ar y chwarter blaenorol, rhwng Hydref a Rhagfyr, ac mae'n ostyngiad o 1.4% ar yr un cyfnod y llynedd.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y bobl sy'n anactif yn economaidd.
Llai yn edrych
Yn ôl y ffigyrau, 6.8% yw'r gyfradd diweithdra ymysg pobl sy'n edrych am waith.
Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod llai o bobl yn edrych am waith, ac er y gyfradd diweithdra is, Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae llai o bobl mewn cyflogaeth o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
Mae 18,000 yn llai mewn gwaith o'i gymharu â Hydref i Ragfyr y llynedd.
Mae'r nifer o bobl sydd mewn gwaith neu yn edrych am waith, pobl sy'n 'economaidd weithgar', wedi gostwng 13,000 yng Nghymru dros y flwyddyn diwethaf, neu 0.5%.
72.5% o bobl oed gweithio yng Nghymru sydd mewn gwaith neu yn edrych am waith, a hynny yw'r ail gyfradd isaf dros y DU.
Ers y chwarter diwethaf, mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y bobl sy'n 'economaidd anactif' - pobl sydd o fewn oed gweithio nad ydyn nhw'n chwilio am waith.
Gall hynny fod oherwydd eu bod yn gofalu am eraill, mewn addysg, yn dioddef o salwch neu wedi ymddeol yn gynnar.
Yn y Deyrnas Unedig roedd yna ostyngiad o 133,000 yn nifer y di-waith, gan olygu bod 2,210,000 (6.8%) heb waith rhwng Ionawr a mis Mawrth eleni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd11 Medi 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2013