Gobaith i bwll nofio'r Nova ym Mhrestatyn

  • Cyhoeddwyd
Nova Centre, Prestatyn

Mae cynlluniau i wario £3.6 miliwn er mwyn adnewyddu canolfan hamdden Nova yn sir Ddinbych gam yn nes.

Fe wnaeth canolfan Nova ym Mhrestatyn gau yn gynharach eleni ar ôl i'r cyngor benderfynu rhoi'r gorau i gyfrannu arian i'r ymddiriedolaeth oedd yn cynnal y fenter.

Ddydd Mawrth penderfynodd cabinet y sir i wario £108,864 ar gynlluniau manwl i ailddatblygu'r safle.

Dywedodd y cynghorydd Huw Jones, aelod o'r cabinet sydd â chyfrifoldeb am hamdden, fod y penderfyniad yn profi fod y cyngor yn benderfynol o ddarparu gwasanaethau hamdden o safon.

Mae disgwyl i'r cynlluniau newydd fod yn barod i'w hystyried erbyn mis Medi.

Ymhlith y targedau ar gyfer y cynlluniau mae

  • Cadw'r pwll nofio a phwll llai

  • Creu safle newid ar gyfer y pwll

  • Bod ag adnoddau ffitrwydd yn debyg i'r hyn sydd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun

  • Creu safle amlbrwpas ar gyfer gweithgareddau cymunedol, fel gwersi ymarfer corff a chlybiau chwaraeon

  • Lle chwarae i blant iau, ynghyd â derbynfa a chaffi

  • Creu un neu ddau o unedau manwerthu ar gyfer y promenâd.

Fe wnaeth pwll nofio yr Heulfan yn y Rhyl a Chanolfan Bowls Gogledd Cymru ym Mhrestatyn gau yr un pryd â'r Nova ar ôl i'r cyngor roi'r gorau i roi cymorth ariannol i Clwyd Leisure.

Cafodd ymddiriedolaeth Clwyd Leisure ei sefydlu gan y cyngor yn 2001 i redeg y safleoedd ar ei ran.

Ond eleni fe benderfynodd cabinet Cyngor Sir Ddinbych beidio â chynnig cymorth ariannol o £200,000 yn 2014-15.