Ffrae dros restr fer merched yn unig

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau Llafur yn etholaeth Ann Clwyd yn anhapus gyda'r penderfyniad i gael rhestr fer merched yn unig ar gyfer 2015

Mae aelodau'r blaid Lafur mewn etholaeth yn ne Cymru wedi gohirio cyfarfod i ddewis ymgeisydd seneddol newydd, ar ôl i'r blaid ddweud mai ond merched fydd yn cael bod ar y rhestr fer.

Bydd AS Cwm Cynon, Ann Clwyd yn ymddeol o'r swydd ar ôl etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Mae'r ysgrifennydd lleol, Alun Williams, wedi dweud eu bod nhw am ddewis yr ymgeisydd orau, beth bynnag eu rhyw.

Mae Llafur Cymru yn dweud bod ganddyn nhw record o gynyddu amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth.

'Anwybyddu'

Dywedodd Mr Williams: "Fe wnaeth ein haelodau wneud hi'n glir i'r Blaid Lafur yn genedlaethol ein bod ni yn erbyn rhestr fer merched yn unig, ond cafodd ein barn ei anwybyddu.

"Rydyn ni'n flin nad ydyn ni'n cael ein gwerthfawrogi."

Ychwanegodd hefyd bod gan yr etholaeth "record falch o gefnogi merched mewn gweithgareddau gwleidyddol" gydag Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a chynghorwyr sy'n ferched ar gyngor Rhondda Cyngor Taf.

Cafodd Ann Clwyd ei hethol gyntaf yn 1984, y bedwaredd ddynes i gael ei hethol mewn etholaeth yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Llafur yn arwain y ffordd ar gynrychiolaeth o ferched yng Nghymru gyda mwy o ASau, ACau a chynghorwyr sy'n ferched nac unrhyw blaid arall a byddwn yn parhau i wneud hynny."

Cafodd y penderfyniad i ymestyn defnydd rhestrau byr gyda merched yn unig ei wneud gan is-bwyllgor y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Llafur.

Mae'n golygu y bydd o leiaf hanner o'r 18 o ymgeiswyr newydd ar gyfer 2015 yn ferched.

Yn ogystal ag Ann Clwyd, bydd yr AS Siân James hefyd yn gadael ei swydd yn nwyrain Abertawe cyn yr etholiad nesaf.