Adolygiad annibynnol o'r Arolygiaeth Gofal Iechyd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o'r Arolygiaeth Gofal Iechyd yng Nghymru (AGIC), meddai'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Roedd pwyllgor iechyd y Cynulliad wedi argymell adolygiad o'r corff, sy'n gyfrifol am archwilio'r GIG a sefydliadau gofal iechyd annibynnol.

Daw'r cyhoeddiad fis ar ôl i'r gweinidog gyfaddef fod casgliadau adroddiad am ofal ar gyfer pobl hŷn mewn dau ysbyty yn y de wedi bod yn 'sioc'.

Bryd hynny, ymddiheurodd Dr Kate Chamberlain, pennaeth AGIC, am fethu adnabod pryderon a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad beirniadol.

Ruth Marks, cyn-Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fydd yn arwain yr adolygiad gyda'r bwriad o gyflwyno deddfwriaeth newydd a fydd yn atgyfnerthu cylch gwaith y corff.

Wrth siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford: "Nodwedd fwyaf sylfaenol AGIC yw ei bod yn arolygiaeth annibynnol - yn annibynnol o'r GIG ac yn annibynnol o Lywodraeth Cymru.

"Deng mlynedd ar ôl ei sefydlu, a'r Cynulliad Cenedlaethol bellach yn meddu ar gyfres o bwerau deddfu gwahanol iawn, nawr yw'r amser i gynnal adolygiad sylfaenol o AGIC er mwyn diwygio, datblygu a gwella ei swyddogaethau arolygu a rheoleiddio".

Ychwanegodd y bydd y gwaith yn dechrau "heb oedi gormodol".

Roedd yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal, dolen allanol yn amlygu nifer o fethiannau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys pobl yn dweud wrth gleifion am fynd i'r tŷ bach yn y gwely ac anwybodaeth ynglŷn ag anghenion dementia.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol