Cymraeg ym maes iechyd: 'Brawychus'

  • Cyhoeddwyd
Yn ôl Meri Huws
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Meri Huws, mae'r adroddiad yn "tanlinellu pa mor greiddiol i ansawdd gofal yw darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog i les cleifion Cymraeg eu hiaith".

Dim ond 28% o siaradwyr Cymraeg sy'n cysylltu â meddyg teulu, deintydd, fferyllydd ac optegydd yn Gymraeg, yn ôl adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Wrth gyflwyno'r adroddiad ddydd Mawrth, dywedodd Meri Huws ei bod wedi "brawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o'u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i'w hanghenion".

Ei gobaith yw y bydd 'Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i'r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol', sef adroddiad ymholiad statudol cyntaf y Comisiynydd o dan Fesur y Gymraeg 2011, yn "ddechrau'r diwedd i brofiadau o'r fath".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad ac y byddan nhw'n ymateb yn llawn i'r argymhellion o fewn chwe mis.

Yn ôl yr adroddiad:

  • Rydych fwyaf tebygol o gael gwasanaeth Cymraeg gan nyrs practis mewn meddygfa ac yn lleiaf tebygol o dderbyn yr un peth gan wasanaethau tu allan i oriau, deintyddion ac optegwyr;

  • Mae gwahaniaeth sylweddol yn ôl daearyddiaeth gyda 55% yn ardal Betsi Cadwaladr yn cael cyswllt Cymraeg gyda nyrs practis a 6% yn ardal byrddau iechyd y de a'r canolbarth;

  • Mae 90% o'r rhai a holwyd o'r farn y dylai fod yn hawl i siaradwyr Cymraeg fynegi'u hunain yn Gymraeg ble bynnag y maent yng Nghymru;

  • Mae 83% o'r farn os oes siaradwr Cymraeg (meddyg, nyrs, deintydd, fferyllydd ee) ar gael dylid cynnig apwyntiad Cymraeg i siaradwyr Cymraeg bob tro.

33 o argymhellion

Ymhlith yr argymhellion, dywedir y dylai Llywodraeth Cymru enwi Prif Swyddog i fod yn gyfrifol am arwain y gwaith o asesu a gwella'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru.

Argymhellir hefyd i Weinidogion Cymru gynnal arolwg o sgiliau iaith Gymraeg ar draws y sector gofal sylfaenol.

Dywedodd Meri Huws: "Rwyf wedi fy nghalonogi gan agwedd adeiladol nifer fawr o'r sefydliadau a'r unigolion yr wyf wedi siarad â nhw neu a gyflwynodd dystiolaeth i ni.

"Mynegwyd diddordeb a brwdfrydedd i drafod y pwnc, ac roedd llawer yn barod i adnabod y rhwystrau a'r problemau ond hefyd, yn bwysicach, yn barod i drafod y ffordd ymlaen er mwyn gwella ansawdd gofal sylfaenol i gleifion yng Nghymru.

"Mae'r adroddiad yn tanlinellu pa mor greiddiol i ansawdd gofal yw darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog i les cleifion Cymraeg eu hiaith".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu sydd wedi'u nodi yn ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, 'Mwy na Geiriau', a gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2012 gyda chynllun gweithredu tair blynedd.

"Bydd adroddiad y comisiynydd yn ategu'r gwaith hwn."

Bydd y Comisiynydd yn ymddangos gerbron Pwyllgor Iechyd y Cynulliad ar 2 Gorffennaf i drafod yr adroddiad.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar: "Rydyn ni'n croesawu adroddiad y Comisiynydd. Mae'n hanfodol bod y llywodraeth yn gweithredu'r argymhellion yn y set nesaf o safonau iaith.

"Mae'n galonogol iawn hefyd gweld cymaint o gefnogaeth i'r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, hawl rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu drosti ers blynyddoedd maith."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol