Ysgrifennydd Cyffredinol Nato: Ymweliad 'hanesyddol'

  • Cyhoeddwyd
Anders Fogh Rasmussen

Fe fydd ymweliad uwchgynhadledd Nato â Chasnewydd yn 'hanesyddol' medd Ysgrifennydd Cyffredinol y sefydliad, ac yn rhoi hwb i economi Cymru.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Politics Wales, fe ddywedodd Anders Fogh Rasmussen mai hon yw'r uwchgynhadledd Nato fwyaf erioed.

Fe fydd mwy na 50 o arweinwyr byd yn cwrdd yng ngwesty'r Celtic Manor ar gyrion y ddinas yn wythnos gyntaf mis Medi.

Fe ddywedodd Mr Rasmussen: "Mae 'na agwedd economaidd bositif iawn i ddigwyddiad fel hyn.

"Fe fydd 'na fwy na 50 o genhedloedd yn dod â dirprwyaeth fawr neu fach gyda nhw - felly fe welwch chi filoedd ar filoedd o bobl yn mynd i Gymru.

"Wrth gwrs, mae'r agwedd economaidd yn bositif, ond ddylech chi ddim tanbrisio dylanwad y cysylltiadau cyhoeddus - hwn yw'r digwyddiad mwyaf erioed yn hanes Nato ac fe fydd yn cael ei ddarlledu ledled y byd".

'Penderfyniadau pwysig'

Ychwanegodd Mr Rasmussen fod y gynhadledd yn digwydd mewn cyfnod lle mae sefyllfa ddiogelwch Ewrop "wedi ei newid yn ddramatig" gan "weithredu anghyfreithlon" Rwsia yn yr Wcráin.

"Fe fydd hon yn gynhadledd hanesyddol.

"Fe fyddwn ni'n gwneud penderfyniadau pwysig am ddyfodol Nato, ac am flynyddoedd mawr i ddod fe fydd yn cael ei gofio fel Cynhadledd Cymru."

Wnaeth Mr Rasmussen ddim ymhelaethu ar ei farn am refferendwm yr Alban ar annibyniaeth ym mis Medi:

"Dw i'n bendant ddim am ymyrryd gyda gwleidyddiaeth Brydeinig. Mae'n sefyllfa ddamcaniaethol felly dydyn ni heb ei thrafod.

"Petai'r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, a phe byddai'r Alban annibynnol yn gwneud cais i fod yn aelod o Nato, yna fe fyddai'r cais yn cael ei drin yn union yr un fath â cheisiadau gan genhedloedd eraill."

'Gwneud gwahaniaeth'

Fe roddodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol deyrnged i luoedd arfog Prydain - nifer o Gymru - sydd wedi marw yn Afghanistan.

"Mae'n nhw wir wedi gwneud gwahaniaeth yn Afghanistan. Dyw eu haberth nhw heb fod yn ofer.

"I'r gwrthwyneb, mae gennym ni system ddiogelwch well. Yn ogystal, mae 'na gymdeithas well yno nag oedd yno 10 neu 15 mlynedd yn ôl.

"Mae twf economaidd yn well, ac o ran addysg, mae 8 miliwn o blant yn mynd i'r ysgol - a thraean o'r rheiny'n ferched.

"Mae 'na sefyllfa well o ran iechyd yno, hefyd. Mae Afghanistan heddiw yn gymdeithas llawer gwell nag oedd hi."

Ychwanegodd Mr Rasmussen ei bod hi'n bwysig nad yw NATO yn gadael gwatcod o ran diogelwch yn Afghanistan, ond roedd yn hyderus y byddai'r heddlu a'r fyddin yno yn gallu cymryd cyfirfoldeb llawn erbyn diwedd eleni.

Mae Sunday Politics yn cael ei ddarlledu am 11yb ddydd Sul ar BBC 1.