Iechyd: cyhoeddi adroddiad i'r broses gwyno
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i adroddiad i'r modd mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ymdrin â chwynion gynnwys nifer o argymhellion i wella'r drefn.
Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn dilyn arolwg tri mis o'r Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod yn rhaid i'r gwasanaeth "wrando, dysgu a gweithredu".
Cafodd yr arolwg 12 wythnos ei sefydlu gan Mr Drakeford.
Keith Evans, cyn bennaeth Panasonic UK ac Iwerddon, ac Andrew Goodall, prif weithredwr Bwrdd Iechyd prifysgol Aneurin Bevan, oedd yn arwain yr ymchwiliad.
Y bwriad oedd dysgu beth oedd yn gweithio'n dda a lle'r oedd yna le i wella.
Roedd yn hefyd am wybod oedd yna le i'r gwasanaeth fod yn fwy agored ac a oedd yna wersi i'w dysgu o'r diwydiant gwasanaethau.
Cynydd mewn cwynion
Yn ôl ffigyrau diweddar fe wnaeth nifer y cwynion am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i'r Ombwdsmon gynyddu o 191 yn 2006/7 i tua 680 erbyn 2012/13.
Eisoes mae AS Cwm Cynon, Ann Clwyd, wedi arwain ymchwiliad i'r modd mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn ymdrin â chwynion.
Dywedodd iddi dderbyn cannoedd o lythyron gan gleifion o Gymru yn amlinellu profiadau gwael gyda'r gwasanaeth iechyd.
Ond yn ôl llywodraeth Cymru doedd dim modd ymchwilio i'r cwynion oerhwydd eu bod yn rhai dienw.
Mae disgwyl i Ms Clwyd roi tystiolaeth gerbron pwyllgor iechyd y cynulliad yn ddiweddarach yn y mis.
Fe wnaeth Ms Clwyd nifer o gwynion yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn 2012.
Fe wnaeth ymchwiliad mewnol gan y bwrdd iechyd ddweud fod nifer o'r cwynion yn ddilys ond nid yr honiad i'w gwr farw mewn amodau yn debyg i fferm ieir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2014
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014