Colli Gerallt: Ymateb y Beirdd

  • Cyhoeddwyd
  • comments
Gerallt Lloyd Owen - hawlfraint Emyr YoungFfynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Young: "Braint oedd cael tynnu llun Gerallt Lloyd Owen yn 2012. Treiliais awr yn ei gwmni ffraeth. Cefais fy nghyfareddu ganddo a bu sgwrsio difyr dros sawl paned a sawl sigaret. Rhodd yw'r llun gan gawr o fardd, dim ond gwasgu botwm y caead wnes i."

Mae rhai o feirdd Cymru wedi bod yn talu eu teyrngedau i'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen a fu farw ddydd Mawrth 15 Gorffennaf:

Y Prifardd Myrddin ap Dafydd

Colli Gerallt (ar ôl clywed y newyddion wrth deithio o Lithfaen am Nefyn)

Aeth y Garn a'r iaith i gornel,- aeth dydd

a nerth dyn yn isel,

aeth y ffraeth drwy fôr ffarwel,

aeth Gerallt dros rith gorwel.

Aneirin Karadog drwy Twitter

Mor wag ydyw'r Gymru hon

Heb Gerallt, heb ei goron.

Y Prifardd Ceri Wyn Jones

"Mae'n ergyd ddychrynllyd o drom, does dim dwywaith am hynny.

"Ry' ni 'di colli rhywun 'y ni 'di hen ystyried yn un o'n cewri ni, un o'n bobl amlyca' ni ond hefyd un o'n pobl anwyla' ni."

Cliciwch i ddarllen rhagor o deyrnged Ceri

Y Prifardd Meirion MacIntyre Huws

"Nawn ni byth, byth weld rhywun tebyg i Gerallt eto, dyna'r math o golled.

"Mi roedd o'n cyrraedd clustiau pawb, yn creu argraff ar bawb, roedd o'n mynd â barddoniaeth gam ymhellach a chyrraedd pobl ar lawr gwlad.

"Does dim rhaid i chi gael doethuriaeth yn y Gymraeg i ddeall barddoniaeth Gerallt... a dyna un o'i gampau mawr o."

Y Prifardd Tudur Dylan Jones

"Mae rhywun yn gallu ei osod o ar yr un lefel â phobl fel R Williams Parry, Waldo Williams, Dafydd ap Gwilym.

"Mi fydd ei enw fo yn sicr yn un sy'n canu ymhlith yr enwau yna."

Huw Dylan Owen drwy Twitter

Gerallt (1944-2014)

Rhy gynnar yw ein galaru - wylwn

Ein halaeth dros Gymru,

Ond er trallod diwrnod du

Ei her a ddeil yfory.

#Gerallt

Y cyn Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones

"Fe wnaeth Gerallt gyfraniad eithriadol o sylweddol i lenyddiaeth Cymru.

"Fe ddangosodd ddawn a gweledigaeth arbennig iawn. Bob tro roedd o'n gwneud unrhyw beth roedd 'na sglein a dyfnder arbennig i'r mynegiant.

"Pan 'da ni'n sôn am wir feirdd - dau enw sy'n dod i'r meddwl - Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen."

Yr Athro Peredur Lynch

"Fedra' i ddim meddwl am un bardd oedd â chymaint o afael ar yr iaith Gymraeg, a'r ddawn yna sy'n aros yn fy ngolwg i.

"Fydd na neb arall yr un fath a fo, ond mae o wedi creu trywydd newydd i farddoniaeth Gymraeg."

Guto Dafydd ‏drwy Twitter

"Roedd Gerallt yn llais i wrthryfel ei genhedlaeth ond a'i grefft a'i gynhysgaeth yn rhan o draddodiad llawer hŷn."

Eurig Salisbury drwy Twitter

"clamp o fardd bach, diolch #gerallt a choffa da amdano #jerrygaveme10"

Dafydd Islwyn, Ysgrifennydd Barddas

"Roedd o'n fiaren i'n cydwybod ni fel Cymry. Roedd o'n dangos mor llwfr oedden ni ac roedd o wedi gallu ei fynegi o mor raenus a chry'.

"A hyn sy'n dda: 'doedd 'na ddim byd gwael yn dod allan o Gerallt. Oedd o'n gweithio hyd eithaf ei allu i gael y gora' fedra' fo o'i gynghanedd a be' oedd ganddo fo i'w ddweud."

Carys M Grom ‏drwy Twitter

"#geralltlloydowen Y Meuryn yn huno mewn hedd."

Osian Rhys Jones drwy wefan Y Twll, dolen allanol

"Mae rhaid i Feuryn ar gyfres y Talwrn y Beirdd BBC Cymru fod yn sawl peth; beirniad, storïwr ac athro i enwi dim ond tri. Mae cyfrifoldeb mawr ar ysgwyddau'r Meuryn wrth feithrin beirdd. Fe wnaeth Gerallt y pethau hyn gyda thafod arian a braich gefnogol. Mawr yw fy nyled i iddo. Gwn y bydd llawer iawn o feirdd yn teimlo yr un fath."

Gallwch wrando ar fwy o deyrngedau ar wefan BBC Radio Cymru.

Hefyd gan y BBC