Tîm Sky: Cytundeb newydd i Geraint Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Geraint Thomas wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd newydd gyda Thîm beicio Sky,
Mae'r beiciwr 28 oed o Gaerdydd wedi bod yn rhan bwysig o'r tîm ers ymuno yn 2010 ac fe serennodd mewn nifer o gymalau yn y Tour de France eleni gan orffen y ras yn y 22ain safle.
Dyma ei ganlyniad gora mewn cystadleuaeth fawreddog, tra ei fod wedi cynorthwyo Chris Froome llynedd i gipio'r ail grys melyn i Dîm Sky mewn dwy flynedd o gystadlu yn Ffrainc.
Dywedodd Thomas, un o wyth beicwyr Prydeinig sydd yn y tîm: "Rwy'n hapus iawn i gael y cyfle i aros gyda Thîm Sky am ddwy flynedd arall.
2Rydw i wedi bod yma ers y dechrau, 'dwi'n credu'n gryf mai dyma'r lle gorau i mi gyflawni fy mhotensial fel beiciwr.
"Dwi'n cael cefnogaeth gref iawn yma ac rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at herio fy hun drwy ymdrechu i fod y gorau yn yr hyn dwi'n wneud."
Aelod gwerthfawr o'r tîm
Mae pennaeth y tîm, y Cymro Syr David Brailsford, wrth ei fodd fod cyn-enillydd dwy fedal aur Olympaidd y gystadleuaeth tîm wedi penderfynu ymestyn ei gytundeb gyda Sky.
"Rydym yn falch iawn fod Geraint wedi ail-lofnodi ar gyfer dwy flynedd arall.
"Mae wedi chwarae rhan hanfodol yn y llwyddiant rydym wedi ei gael.
"Mae Geraint yn aelod dylanwadol o'r tîm ar, ac oddi ar y beic, nid yn unig ei fod yn gymeriad cryf ond mae'n un o lond llaw o feicwyr safon ryngwladol broffesiynol sy'n gallu gwneud y cyfan, boed yn cystadlu ar y dringfeydd, ar y fflat neu dreialon amser, sy'n profi ei fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012