GIG Cymru: Diwylliant o fod 'dan glo'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad mae diwylliant o fod 'dan glo' yn bodoli yn GIG Cymru pan ddaw hi'n fater o ymdrin â chwynion.
Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn codi pryderon ynglŷn â'r ffordd mae cwynion yn cael eu derbyn a'u rheoli gan fyrddau iechyd lleol, gan alw am sefydlu system "fwy gonest ac agored".
Ymysg prif bryderon y pwyllgor oedd ofnau staff y bydden nhw'n cael eu herlid pe baen nhw'n codi pryderon ynglŷn â gofal, a'r angen am reolydd annibynnol i ymdrin â chwynion.
Daw casgliadau'r pwyllgor yn dilyn adroddiad gan Keith Evans, cyn-bennaeth Panasonic UK and Ireland, a oedd yn cynnwys 100 o argymhellion ar gyfer gwella a chryfhau proses gwynion y GIG.
Cwynion - llai na 0.1%
Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli pob bwrdd iechyd Cymreig, yn dweud bod nifer y cwynion sydd wedi eu derbyn yn llai na 0.1% o'r holl gleifion sy'n defnyddio'r GIG. Ond ychwanegodd nad oeddan nhw'n hunanfodlon er gwaethaf hynny.
Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, David Rees AC, er ei fod yn cydnabod bod y rhan fwyaf o brofiadau o'r GIG yn rhai positif bod angen newid yn niwylliant y gwasanaeth iechyd i wella'r broses o ymdrin â chwynion.
Yn ôl Mr Rees mae angen gwneud mwy i fonitro cwynion yn effeithiol a lleihau'r pwysau ar deuluoedd y rheiny sy'n cwyno.
"Rydym yn credu bod angen gwella'r ffordd mae cwynion yn cael eu hymdrin â nhw ar yr achlysuron prin hynny pan mae rhywbeth yn mynd o'i le.
"Dylid ymdrin â chwynion mewn modd agored, tryloyw a phrydlon.
"Dylai'r rheiny sy'n gwneud cwynion, yn staff neu'n gleifion, allu gwneud hynny heb boeni am unrhyw effaith ar eu gyrfa neu eu gofal o ganlyniad i'r gwyn."
Ymateb
Dywedodd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, bod y GIG yng Nghymru yn canolbwyntio'n llwyr ar brofiad y claf.
"Tu ôl i bob cwyn mae unigolyn a'i deulu sy'n teimlo nad ydi eu gofal wedi cyrraedd y safon.
"Pan mae'r gofal yn methu â chyrraedd y safon mae'r claf yn ei haeddu, mae'n rhaid i ni wrando, dysgu a gweithredu. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, rhaid i'r system gwynion fod yn eglur, cyson a hawdd i'w dilyn.
"Rydym yn gwybod o adroddiad Keith Evans bod angen gwneud mwy o waith ac mae'r rheiny yn GIG Cymru wedi ymroi i wella'r ffordd rydym ni'n ymdrin â chwynion gan ei weld fel cyfle i wella gwasanaethau."
Yn eu gohebiaeth mae'r pwyllgor wedi amlinellu 11 prif fater i'w hystyried gan y Llywodraeth a'r GIG yng Nghymru.
Mater o adnoddau hefyd
Mis diwethaf dywedodd Mark Drakeford nad oedd hyn yn fater o ddiwylliant yn unig, ond hefyd yn fater o adnoddau.
"Mae angen i ni wneud cymaint â phosibl er mwyn galluogi cleifion i gyflwyno eu cwynion yn effeithiol.
"Ar yr un pryd mae'n rhaid sicrhau nad ydym ni'n creu hinsawdd ble mae'r staff yn teimlo eu bod dan warchae."
Mae'r pwyllgor wedi dweud y byddan nhw'n ail-edrych ar y mater cyn diwedd y tymor hwn yn 2016 er mwyn adrodd ar y cynnydd sydd wedi'i wneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2014