Adolygu proses gwynion y Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o bobl yn parhau i fod yn ansicr ynglŷn â sut i fynd ati i wneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu cynnal adolygiad o'r ffordd mae'r gwasanaeth iechyd yn delio gyda chwynion.

Bydd yr adolygiad yn ystyried os yw'r ffordd mae cwynion yn cael eu hymdrin â nhw ar hyn o bryd yn dderbyniol, ac os oes ffyrdd o wella'r system.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: "Mae'r system bresennol o ddelio â chwynion sydd wedi ei selio ar yr egwyddor o 'ymchwilio unwaith, ymchwilio'n dda' bron yn dair blwydd oed.

"Mae felly'n amserol i ni adolygu pa mor dda mae'r GIG yng Nghymru yn delio gyda phryderon ac adeiladu ar gynnydd sydd eisoes wedi ei wneud.

"Rwy'n awyddus i ni ddysgu gan rheiny sydd â record arbennig o ofal cwsmer mewn sectorau eraill.

"Rwyf felly wedi gofyn i Keith Evans arwain yr adolygiad hwn, fydd yn dechrau'n syth a fydd yn adrodd yn ôl i mi ar ôl tri mis o ymchwil."

Bydd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Andrew Goodhall yn cefnogi Mr Evans, sy'n gyn brif weithredwr a rheolwr cyfarwyddol ar Panasonic UK, yn y gwaith.

Ym mis Hydref fe wnaeth arolwg barn ar ran BBC Cymru yn awgrymu nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut i wneud cwyn os ydyn nhw'n anfodlon â gofal iechyd.