Pris bîff yn peryglu bywoliaeth ffermwyr?

  • Cyhoeddwyd
Carving roast beef
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr NFU, mae'r bwlch rhwng pris bîff yn y siop a'r pris wrth gât y fferm yn £1.09 y cilo yn uwch na'r bwlch yn Ebrill 2013.

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn, mae undeb ffermwyr yr NFU wedi rhybuddio bod pris cig eidion yn peryglu bywoliaeth ffermwyr biff.

Yn ôl yr undeb, mae'r pris wrth gât y fferm wedi disgyn dros 64c y cilo rhwng Ebrill 2013 a Mehefin 2014 sy'n golygu bod ffermwyr yn derbyn £250 yn llai am bob anifail 400 cilo maen nhw'n ei gynhyrchu.

Ar yr un pryd maen nhw'n dweud bod y pris yn y siopau wedi codi dros 43c y cilo.

Mae'r undeb am weld cig eidion Cymreig yn cael ei hyrwyddo'n well, ac maen nhw am i bobl brynu cynnyrch lleol.

Dywedodd llywydd NFU Cymru Stephen James: "Mae angen cefnogaeth y cyhoedd arnon ni - nid yn unig i gefnogi amaethyddiaeth Gymreig drwy brynu'n lleol - ond hefyd i dynnu sylw at esiamplau o fanwerthwyr a siopau bwyd yn hybu, a gwerthu cynnyrch Cymreig, neu beidio, drwy dynnu hunluniau (selfies)."

Dywedodd llefarydd ar ran Consortiwm Manwerthwyr Prydain fod yna ffactorau eraill heblaw manwerthwyr yn effeithio ar brisiau'r ffermwyr.

Ychwanegodd eu bod yn cefnogi ffermwyr drwy hyrwyddo cigoedd o Gymru a Phrydain, a hefyd drwy labelu clir o darddiad cigoedd.

Nôl ym mis Gorffennaf, yn ystod y Sioe Frenhinol, dywedodd Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru bod "cleddyf Damocles" uwchben y diwydiant cig eidion oherwydd "diffyg cynllunio strategol" gan rai manwerthwyr."

Honnodd fod manwerthwyr wedi addo prynu cig o Brydain yn bennaf ar ôl yr helynt cig ceffyl ond na wnaeth pob un ohonyn nhw gadw at eu haddewid a "rhaid tybio" mai'r ffaith fod mewnforion yn rhatach oedd y rheswm am hynny.

"Serch hynny, mae pris cig eidion yn y siopau wedi cynyddu - mae'n 4% yn ddrutach eleni nag oedd yn 2013.

"Felly, mae ffermwyr Cymru a Phrydain yn derbyn llai am eu gwartheg cig eidion er bod defnyddwyr yn talu mwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Consortiwm Manwerthwyr Prydain: "Rydym yn rhannu pryderon ffermwyr o Gymru, gan ein bod yn derbyn y rhan fwyaf o gig eidion gan ffermwyr yma yn y DU.

"Ond mae'n eglur, fel cafodd ei nodi mewn cyfarfod diweddar o Weinidogion ynglŷn â chig eidion, fod y prisiau mae ffermwyr yn ei dderbyn yn dibynnu ar lawer mwy na phrisiau manwerthwyr.

"Mae hynny yn cynnwys cyflwr y farchnad gig eidion yn gyffredinol, cyflenwadau uchel o gig eidion a'r gyfradd cyfnewid.

"Mae'r arwyddion yn dangos y dylai'r problemau gael eu datrys erbyn diwedd y flwyddyn sy'n newyddion da i ffermwyr o Gymru . "