Ffermwyr yn protestio ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol

  • Cyhoeddwyd
Protest Sioe Frenhinol

Mae ffermwyr wedi bod yn protestio ar faes y Sioe Frenhinol yn erbyn penderfyniad archfarchnad i hyrwyddo cig oen o Seland Newydd yn eu siopau.

Ar ddiwrnod cyntaf y sioe ym Mhowys, roedd tua 50 o aelodau undeb yr NFU wedi cynnal protest y tu allan i stondin Tesco ar y maes.

Daw'r brotest wrth i ddau gynllun newydd sy'n ceisio helpu ffermwyr a'u busnesau gael eu lansio yn y sioe.

Yn ôl Hybu Cig Cymru bydd y cynllun cyntaf yn canolbwyntio ar iechyd anifeiliaid a rheoli haint.

Fe fydd yr ail gynllun yn cynnig cyngor i ffermwyr ar sut i ddyfalu galw yn y farchnad am gynnyrch.

Mae disgwyl i filoedd fynychu diwrnod cyntaf y Sioe ym Mhowys sy'n brif lwyfan i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Enwebiadau

Yn ôl Sion Aron Jones, rheolwr Datblygu gyda Hybu Cig Cymru mae'r ddau brosiect werth cyfanswm o £820,000.

Bydd nifer o ffermydd yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cynllun prawf fel rhan o'r prosiectau.

Yn ystod y Sioe, sy'n para tan ddydd Iau, fe fydd Rebecca Evans, yr Is Weinidog newydd gyda chyfrifoldeb am amaeth a physgodfeydd yng Nghymru yn cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant amaeth er mwyn trafod y gronfa ddatblygu wledig.

The Royal Welsh showground
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i filoedd ymweld â safle'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd dros y dyddiau nesaf

Fe gafodd hi ei dyrchafu i'r swydd ar ôl i Alun Davies gael ei ddiswyddo am ofyn am wybodaeth breifat am aelodau'r gwrthbleidiau yn y cynulliad.

A'r drothwy'r Sioe dywedodd Ms Evans na all y diwydiant ddibynnu ar grantiau Ewropeaidd.

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd Cronfa Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru yn fodd o sicrhau hynny.

Dywedodd Ms Evans fod y Sioe yn rhan hanfodol o'r economi wledig ac yn dangos faint mae ffermio yn ei gyfrannu i economi Cymru.

"Byddaf yn y Sioe i wrando ac i ddysgu ond rwyf hefyd am rannu fy syniadau ar sut dw i'n meddwl y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er mwyn cyrraedd gweledigaeth gytûn ar ddiwydiant ffyniannus i'r dyfodol."

Linebreak

'Argyfwng' diwydiant cig

Protest Sioe Frenhinol

Ar ddiwrnod cyntaf y sioe, fe wnaeth ffermwyr gynnal protest yn erbyn penderfyniad archfarchnad Tesco i hyrwyddo cig oen o Seland Newydd.

Roedd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogi diwydiant amaeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco eu bod yn gwerthu mwy o gig oen o Brydain nag unrhyw werthwr arall a'u bod nhw'n "falch i werthu a hyrwyddo" cig oen o Brydain ar draws y DU.

"Rydyn ni'n cwblhau ein hymrwymiad i gryfhau perthnasau gyda ffermwyr defaid ym Mhrydain drwy Grŵp Cig Oen Cynaliadwy Tesco, sy'n cefnogi tua 200 o ffermwyr.

"Rydyn ni'n falch o'n gwaith gyda'n gilydd i gynhyrchu cig oen o safon uchel a fforddiadwy i'n cwsmeriaid."

Mae cadeirydd Hybu Cig Cymru hefyd wedi rhybuddio bod y diwydiant cig eidion yng Nghymru yn wynebu "argyfwng".

Yn ôl Dai Davies, mae'r diwydiant yn wynebu heriau a hynny oherwydd "diffyg cynllunio strategol gan rai mân-werthwyr".

Dywedodd Mr Davies bod ffermwyr yn derbyn llai am eu cynnyrch er bod siopwyr yn talu mwy am gig, a bod hynny yn arwain at rai ffermwyr yn teimlo bod rhaid rhoi'r gorau i gynhyrchu cig eidion.

"Y mân-werthwyr yw ein cwsmeriaid mwyaf, ac maen nhw'n rhan hollbwysig o'r gadwyn gyflenwi," meddai.

"Rwy'n awgrymu fod gan bawb ohonynt ddyletswydd i ymddwyn yn gyfrifol a chwarae rhan bositif nid yn unig i gynnal - ond hefyd i hybu - diwydiant cig eidion llewyrchus yn y wlad hon."

Ychwanegodd: "Oni fydd pawb yn cydweithio - yn ffermwyr, proseswyr a mân-werthwyr - mae yna wir berygl y byddwn yn colli ein gallu i fwydo'r genedl ar adeg pan fo diogelwch bwyd yn bwnc llosg i sawl gwlad ledled y byd."

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd yn y Sioe, a hynny i agor y broses enwebiadau ar gyfer gwobrau Dewi Sant eleni.

Yn ymuno ag ef bydd rhai o enillwyr gwobrwyon y llynedd gan gynnwys Karin Williams, y ddynes wnaeth achub criw o blant rhag cael eu taro gan gar y tu allan i ysgol gynradd yn y Rhws, Bro Morgannwg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol