Pryder am y diwydiant cig eidion wrth i brisiau ostwng
- Cyhoeddwyd
Mae Hybu Cig Cymru yn dechrau adolygiad i ddyfodol y diwydiant cig eidion yng Nghymru am fod y pris mae ffermwyr yn derbyn am y cig wedi gostwng yn "ddramatig".
Cafodd y penderfyniad ei wneud gan y mudiad ar ôl clywed bod yna bryder am y pris am fustych marw.
Ddechrau Mai roedd y pris am y cig saith ceiniog yn is nag oedd o bythefnos yn gynt. Mi oedd y pris mis Mai hefyd 46 ceiniog yn is na'r un cyfnod y llynedd.
Yn ôl Hybu Cig Cymru mae hynny yn golygu bod ffermwyr yn cael tua £200 yn llai am bob un bustach rŵan.
Cig o Iwerddon
Mae'r mudiad hefyd yn pryderu am y ffaith bod mwy o gig eidion yn dod i Brydain o Weriniaeth Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod 'na fwy o wartheg yn y gadwyn fwyd, tua 50,000 yn fwy yn ôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Dai Davies.
"Ar yr un pryd, mae cynhyrchwyr yn Iwerddon yn derbyn yr hyn sy'n cyfateb i oddeutu £3.10/kg am eu gwartheg," meddai.
"Cafwyd cynnydd yn y mewnforion o gig eidion o Iwerddon i'r DG, sy'n tandorri'r pris y mae ffermwyr ym Mhrydain yn ei dderbyn."
Mae Gwyn Howells, Prif Weithredwr y mudiad amaethyddol yn dweud y byddan nhw yn ystyried yr holl opsiynau ac mai ei blaenoriaeth nhw ydy gwneud yn siŵr fod y diwydiant yn parhau i fod yn un sydd yn datblygu ac yn ffynnu.
"Mae er lles i bawb - ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr - os oes diwydiant cig eidion ffyniannus yng Nghymru er mwyn diwallu'r galw cynyddol am gig eidion cartref o ansawdd uchel.
"Dylai pob adran o'r gadwyn gyflenwi gydweithio er mwyn gwireddu hyn.
"Rydym am annog mân-werthwyr i weithredu'n strategol wrth gydweithredu â'u partneriaid yn y gadwyn gyflenwi yn y DG er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'n diwydiant cig eidion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013
- Cyhoeddwyd21 Awst 2013
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2013