Iechyd preifat: AS yn galw am fwy o hawliau i gleifion

  • Cyhoeddwyd
nyrs
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r drefn o ddelio gyda cwynion yn wahanol mewn ysbytai preifat

Mae yna alw am reoliadau mwy llym o fewn y sector iechyd preifat yng Nghymru - gan wneud y drefn o drin cwynion cleifion ynglŷn â thriniaeth yn fwy tebyg i system y gwasanaeth iechyd.

Dyw'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ddim yn medru ymchwilio cwynion gan gleifion ysbytai a chlinigau preifat- oni bai bod y driniaeth honno wedi ei ariannu gan GIG.

Mae AS Llanelli, Nia Griffith yn dweud bod yna fwlch yn y system a'i bod hi'n "hollol annerbyniol" bod y sector breifat yn ymchwilio ei hunain.

Mae'r Ombwdsmon hefyd yn anhpaus gyda'r drefn bresennol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i newid y drefn fel bod yr Ombwdsmon yn medru bod yn gyfrifol am ymchwilio cwynion yn y sector iechyd preifat.

"Anghyfiawn ac anghyson"

Yn yr Hydref mi fydd yr Ombwdsmon yn medru ystyried cwynion am y sector gofal cymdeithasol a hynny yn dilyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Mae'r Ombwdsmon newydd, Nick Bennett wedi dweud bod hi'n "anghyfiawn ac yn anghyson" nad yw pobl sydd yn talu am wasanaeth preifat yn gallu gofyn am help gan yr Ombwdsmon.

Mae am weld nhw'n cael hawliau tebyg i gleifion y Gwasanaeth Iechyd.

"Byddwn yn hapus i drafod gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd am drefniant tebyg yn cael ei gyflwyno o ran gofal iechyd preifat," meddai.

Mae pobl yn mynd at yr Ombwdsmon os ydyn nhw'n anhapus gyda'r ffordd mae ei chŵyn wedi ei ymchwilio.

Mi fyddai unrhyw newid yn golygu newid yn y gyfraith sydd yn amlinellu rôl yr Ombwdsmon.

Y system ar hyn o bryd yw bod cwynion am y darparwyr yn y sector breifat yn cael eu trosglwyddo i'r darparwyr eu hunain - ar gyfer ymchwiliad mewnol. Os nad ydy'r claf neu'r teulu yn hapus gyda'r casgliadau mae'n bosib bwrw ymlaen fel bod yna adolygiad gan reolwyr yn yr ysbyty.

System gadarn

Y cam olaf ydy dyfarniad annibynnol trwy Gymdeithas Sefydliadau Gofal Iechyd Annibynnol, corff ar gyfer darparwyr iechyd preifat ac annibynnol.

Maen nhw'n dweud fod y system yn un cadarn- gan fod yna dri cham pendant - a bod y trydydd cam yn debyg iawn i'r broses Ombwdsmon.

Dywedodd Nia Griffith, AS Llafur Llanelli:

"Dw i ddim yn meddwl bod y system fel y mae yn gweithio o gwbl achos nid yw'r cleifion yn gallu cael ffydd yn y sector ei hunain

Dim mwy o gyfrifoldebau

Disgrifiad,

Ruth Lewis: 'angen newid'

"Na beth mae pobl yn meddwl. Beth mae pobl moyn, maen nhw moyn rhywbeth annibynnol. Maen nhw moyn rhywun annibynnol sydd yn mynd mewn, sydd yn gallu bod yn deg i'r claf ac i'r sector ar yr un pryd."

Fis Tachwedd, mi ddywedodd Peter Tyndall, yr Ombwdsmon blaenorol, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu a rhoi mwy o gyfrifoldebau i'r Ombwdsmon fel ei fod yn medru edrych ar gwynion o fewn y sector iechyd preifat.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ystyried tystiolaeth Mr Tyndall ond nad ydyn nhw'n teimlo bod angen unrhyw newid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ombwdsmon, Nick Bennett, yn dweud mai ef dylai fod yn gyfrifol am edrych ar gwynion o fewn y sector iechyd preifat