Pryderon am gynlluniau Pontio
- Cyhoeddwyd
Mi allai rheolwr Pontio wynebu trafferthion wedi iddyn nhw orfod gohirio'r perfformiad agoriadol yng nghanolfan gelfyddydol Pontio ym Mangor, yn ôl y sylwebydd celfyddydol a'r awdur Jon Gower.
Daeth y newyddion ddydd Mercher na fyddai Chwalfa yn agor ar Medi 17 gan na fydd Theatr Bryn Terfel yn barod mewn pryd, er bod y tocynnau ar gyfer y perfformiad i gyd wedi cael eu gwerthu.
Mewn datganiad ddoe dywedodd rheolwyr Pontio y byddai'r ddrama nawr yn cael ei dangos yn y flwyddyn newydd, gan roi dewis i bobl oedd eisoes wedi prynu ticed i'w drosglwyddo i'r dyddiad newydd neu dderbyn ad-daliad.
Ond yn ôl Mr Gower, oedd yn siarad ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dyw symud dyddiadau perfformio ddim mor syml â hynny.
'Dim sicrwydd'
"Mi fydd hi'n ddiddorol iawn gweld be ydi'r trefniadau i ddigolledu Theatr Genedlaethol Cymru," meddai.
"Naill ai bod rhywbeth mewn lle o ran yswiriant neu bod 'na drefn lle bydd rhywun yn gorfod talu'r cwmni achos mae'r actorion wedi ymrwymo i hyn, mae'r criwiau technegol ac yn y blaen...
"Does dim sicrwydd bydd yr un actorion ar gael ar gyfer y flwyddyn newydd, felly er bod pobl yn dweud yn yr ysbryd iawn y bydd modd mynd nôl ati bryd hynny, dydi hi ddim mor hawdd â hynny."
Fe ddywedodd hefyd nad oedd y newyddion fod y theatr ddim yn barod yn syndod i rai o ddisgyblion Prifysgol Bangor.
"Os chi'n darllen be mae myfyrwyr a chyn myfyrwyr Bangor wedi bod yn trydar, dydi'r stori yma ddim yn newyddion achos odd rhai pobl wedi cael addewid o ganolfan gelfyddydol pan oeddan nhw'n cychwyn y brifysgol," meddai.
"A nawr mae rhai yn darogan gadael y brifysgol heb i'r ganolfan agor ei drysau."
Trafodaethau
Mae Pontio'n dweud eu bod yn cynnal trafodaethau gyda'r contractwr ar hyn o bryd.
Mae nhw hefyd yn trafod y trefniadau ar gyfer ail-lwyfannu'r sioe gyda'r Theatr Genedlaethol.
Fe ddywedon nhw wrth BBC Cymru y byddan nhw'n rhyddhau datganiad unwaith mae mwy o wybodaeth ar gael am y ddwy sefyllfa.
Maen nhw hefyd yn bwriadu gweithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr, fydd yn adleoli eu pencadlys i'r ganolfan unwaith y bydd hi'n barod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2014