Iechyd: BMA yn galw am ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BMA wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod wynebu realiti, hynny yw bod argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff.

Mae'r Gymdeithas Feddygol, y BMA, wedi galw am ymchwiliad annibynnol llawn i'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Phil Banfield, cadeirydd BMA Cymru, fod y Gwasanaeth Iechyd mewn peryg o fethu os nad yw camau brys yn cael eu cymryd.

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd dywedodd fod y mudiad yn galw am wneud Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru yn annibynnol ar y Gwasanaeth iechyd a Llywodraeth Cymru.

Hefyd mae'r mudiad yn gofyn am ailysgrifennu'r polisi ynglŷn â rhai sy'n rhoi gwybod am gamymddwyn.

Yn ôl Dr Banfield, dyw'r drefn bresennol ddim yn foddhaol.

Pryder

Honnodd fod nifer o feddygon wedi cael eu gwahardd o'u gwaith oherwydd iddyn nhw fynegi pryder.

Mae'r BMA wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod wynebu realiti, hynny yw bod argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi derbyn copi o adroddiad y BMA ac yn edrych ymlaen at ei ddarllen."

Roedd y llywodraeth yn adolygu rôl yr arolygaeth gofal, meddai.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC,: "Mae syniadau'r BMA yn adleisio ein rhai ni.

"Byddai adolygiad fel un Keogh yn mynd i'r afael â phryderon meddygon ac yn sicrhau bod trefniadaeth mewn lle i warchod cymunedau."