Ann Clwyd am sefyll fel ymgeisydd seneddol eto

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd

Mae Ann Clwyd wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd seneddol ar gyfer Cwm Cynon eto y flwyddyn nesaf.

Ym mis Chwefror roedd Ann Clwyd wedi cyhoeddi ei phenderfyniad i ymddeol yn yr etholiad gyffredinol nesaf.

Ond erbyn hyn mae hi'n bwriadu sefyll dros Cwm Cynon eto wedi'r cwbl.

Ar ôl iddi gyhoeddi ei fod am ymddeol fe wnaeth y Blaid Lafur yn ganolg gyhoeddi y byddai'r blaid yn dewis eu darpar ymgiesydd seneddol ar gyfer Cwm Cynon o blith rhestr merched yn unig.

Roedd nifer o aelodau'r blaid yn yr etholaeth yn anhapus gyda'r syniad.

Deellir fod nifer o aelodau ei phlaid wedi gofyn iddi barhau fel yr ymgeisydd wrth i'r anghydfod barhau rhwng y blaid yn lleol a Llafur yn ganolog.

'Brwdfrydig iawn'

Mewn llythyr i'w hetholwyr dywedodd Ms Clwyd: "Rydw i'n gobeithio cael fy ail-ethol gydag eich cefnogaeth."

Dywedodd bod ei phenderfyniad wedi dod yn dilyn "ystyriaeth ofalus o'r dadleuon gafodd eu cyflwyno i mi."

Dywedodd wrth BBC Cymru bod swyddogion y blaid Lafur yn Llundain ac yn lleol wedi bod yn ymwybodol o'i phenderfyniad ers "sawl wythnos", ond ei bod wedi disgwyl i wneud ei chyhoeddiad oherwydd bod Llafur yn brysur gydag ymgyrch refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Yn ôl Ms Clwyd mae hi wedi derbyn ymateb "brwdfrydig iawn" gan bobl i'w phenderfyniad.