Cyllideb: Mwy i iechyd, llai i gynghorau
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog cyllid Cymru, Jane Hutt AC, wedi amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario'i chyllideb dros y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2015-16.
Fe ddechreuodd Ms Hutt drwy bwysleisio bod y gyllideb £1.5 biliwn yn llai yng Nghymru oherwydd toriadau yn y grant o San Steffan - gostyngiad o 10% mewn termau real i'r pwrs cyhoeddus, meddai.
Cyn i Ms Hutt godi ar ei thraed yn y Senedd, roedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cytuno ar fargen gyda hi sy'n golygu y bydd y gyllideb yn pasio drwy'r Cynulliad am y ddwy flynedd nesaf yn gyfnewid am rhai o bolisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Jane Hutt: "Mae cynnydd yn y galw am wasanaethau wrth i'r arian leihau yn fawr yn enwedig wrth i'r boblogaeth fyw yn hŷn, ond rydym wedi bod yn agored gyda phobl Cymru ar faint yr her sy'n ein hwynebu.
"Mae ein blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar yn ganolog yn ein dull o lunio'r gyllideb yma, ond mae'n bwysicach nag erioed i gynllunio am y tymor hir."
Buddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw un flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac fe gyhoeddodd Ms Hutt £420 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth dros y ddwy flynedd nesaf.
Fe fydd £10 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol i wario ym maes gofal cymdeithasol.
Er hynny fe fydd cynghorau, ar y cyfan, yn gweld gostyngiad o 4.5% yn eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Ymateb
Roedd Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu hymateb i'r gyllideb cyn i Ms Hutt ddechrau siarad, a dywedodd eu llefarydd ar gyllid, Alun Ffred Jones:
"Mae'r gyllideb fer ei golwg hon gan Lywodraeth Cymru yn rhoi ergyd giaidd i'r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt.
"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i grebachu gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei barhau gan y Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae'r blaid Lafur yn gwneud gwaith budr y Torïaid drostynt.
"Gweithred fer ei golwg yw amddiffyn y gyllideb iechyd heb amddiffyn y gwasanaethau cymdeithasol sy'n eu hategu, ac ni wnaiff torri'n ôl ar ofal cymdeithasol ddim ond rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd yn y tymor hir.
"Gwnaeth Plaid Cymru benderfyniad ymwybodol i dynnu'n ôl o drafodaethau ar y gyllideb oherwydd i Lywodraeth Cymru ymrwymo'r llywodraeth hon, a llawer llywodraeth ar ei hôl, i gynllun diffygiol a drud yr M4 fydd yn costio £1 biliwn tra'r roedd dewisiadau gwell ar gael.
"Mae methiant y llywodraeth Lafur i reoli cyllidebau wedi golygu y bu'n byw o'r llaw i'r genau ers blynyddoedd, a pharhau â'r thema honno y mae'r gyllideb hon."
BMA
Wrth bwysleisio bod Cymru'n gwario llai y pen ar iechyd na'r Alban a Gogledd Iwerddon, dywedodd ysgrifennydd cymdeithas feddygon y BMA, Richard Lewis:
"...mae'n bwysig fod Cymru'n cynnal lefelau gwariant yn y cyfnod anodd yma er mwyn sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau ac er mwyn peidio llusgo'n traed ar ddyfeisgarwch a thechnoleg.
"Mae'r bwriad i wario mwy ar iechyd y flwyddyn nesaf felly i'w groesawu."
Ceidwadwyr
Roedd ymateb Ceidwadwyr Cymru hefyd yn gignoeth gyda'u llefarydd ar gyllid, Nick Ramsay'n dweud:
"Gyda'u haddewidion tila mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r llywodraeth Lafur sydd wedi rhedeg ein gwasanaeth iechyd i lawr, ac rydym wedi gweld eu stompio blêr yn gadael ein hysgolion ar waelod tablau'r DU am eu perfformiad.
"Maen nhw {Dem.Rhydd.} wedi ildio am lai na thri chwarter 1% o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru."
Ychwanegodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: "Er bod unrhyw arian ychwanegol i'r GIG i'w groesawu mae hyn yn bell o wneud yn iawn am yr hyn y mae Llafur Cymru wedi torri o'r gyllideb iechyd dros y blynyddoedd.
"Mae hefyd yn rhy ychydig yn rhy hwyr i'r rhai sydd wedi gweld ysbytai a gwasanaethau lleol yn cau neu gael eu hisraddio."
Dadansoddiad
Mae Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone, wedi bod yn dadansoddi cyllideb Llywodraeth Cymru:
"Yn dilyn y newid mawr ym mlaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru - £420 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd dros y ddwy flynedd nesaf - mae 'na gwestiwn mwy: a fydd hyn yn ddigon?
Mae swyddogion y llywodraeth, yn ogystal â'r cabinet, wedi treulio'r haf yn pori dros ddogfen ymchwil gan Ymddiriedolaeth Nuffield, sy'n awgrymu fod angen £2.5 biliwn yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhwng nawr a 2025-26.
Fe fyddai hynny'n ddigon i godi braw ar unrhyw un, ond mewn cyfnod o gynnu ariannol mae'n ddigon i achosi panig llwyr.
Mae'r gyllideb gyfan i lawr eleni i £15.1 biliwn o £15.3 biliwn - y Trysorlys sy'n gosod y swm, cofiwch - felly mae dod o hyd i unrhyw arian sbâr yn amhosib, bron.
Y gobaith yw, wrth gwrs, y bydd yr arian ychwanegol yn ddigon i leddfu'r baich ar ysbytai yn enwedig.
Ond gyda 15 mlynedd bellach o wariant heb roi stop ar y penawdau poenus, y pryder yw na fydd newid cyllideb yn unig yn ddigon i wella'r pen tost gwleidyddol yma.
Wrth reswm mae 'na feysydd eraill ar eu colled o ganlyniad i'r gwario ychwanegol yma ar y gwasanaeth iechyd. Llywodraeth Leol sy' fwya' uchel eu cloch - y gri yw na fydd hi'n bosib bellach i ddarparu rhai gwasanaethau o gwbwl. Am unwaith nid gor-ddweud yw hyn: a chawn ddisgwyl clywed hefyd yr honiad fod ad-drefnu llywodraeth leol yn amhosib dan y fath amgylchiadau.
Ond fe fydd Carwyn Jones a'i dîm yn weddol fodlon eu byd - er gwaetha' darogan gan rai 'nôl yn 2011, mae hi wedi bod yn gymharol syml iddo oroesi heb fwyafrif.
Mae'r cytundeb diweddara' gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau y bydd y sefyllfa yna'n parhau tan yr etholiad nesaf yn 2016."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014