Mwy o deyrngedau i Rhys Jones
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r cerddor, cyflwynydd ac addysgwr Rhys Jones yn 87 oed. Roedd wedi bod yn sâl ers tro oherwydd niwmonia.
Bu farw yn yr ysbyty brynhawn Mercher.
Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw yn fuan wedi ei sefydlu ym 1953, cyn gadael i ddod yn ddirprwy-brifathro ysgol newydd arall, Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym 1961, lle bu hefyd yn athro cerdd.
Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Treffynnon am gyfnod cyn dychwelyd yn ddirprwy-brifathro i Ysgol Maes Garmon tua dechrau'r 1970au.
Fel cerddor, roedd yn gyfeilydd, arweinydd a chyfansoddwr o fri.
Fe weithiodd hefyd ym myd darlledu, gan ddod yn gynhyrchydd gyda'r BBC ym Mangor ac yn gyflwynydd Taro Nodyn ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer a Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.
Yn 2010 fe ddarlledwyd rhaglen arbennig amdano ar S4C - 'Rhys Jones: Gŵr y Gân', ac yn 2011 fe dderbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydedd o Brifysgol Bangor.
Mae'n gadael gweddw, Gwen, a'u plant Dafydd a Caryl.
Dywedodd Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaeth Cymraeg BBC Cymru:
"Roedd Rhys Jones yn un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Radio Cymru tan yn ddiweddar iawn, a'i gyfres Taro Nodyn ar foreau Sul yn apelio at wrandawyr o bob oed.
"Roedd ganddo frwdfrydedd a gwybodaeth eang am bob math o gerddoriaeth ac roedd yn storïwr ac yn ddarlledwr heb ei ail. Mae ein cydymdeimlad yn fawr gyda'r teulu."
Ar Twitter, fe ddywedodd Beti George: "Mor, mor ddrwg gen i glywed am Rhys Jones. Un o fy ffefrynne. Un talp o dalent enfawr a sgwrsiwr heb ei ail."
'Yn arwr'
Ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru, fe fu'r cyfansoddwr Gareth Glyn yn cofio am ei gyn-athro cerddoriaeth:
"Yn syml iawn, fyddwn i ddim yn gyfansoddwr, nac ychwaith yn gerddor heb ddylanwad Rhys Jones.
"Yn hogyn 13 oed yn mynd i'r ysgol, a'i gyfarfod o am y tro cynta', ges i fy ysbrydoli ganddo fo o'r eiliad gynta', ac mi oedd o'n gymaint o gefn i mi. Mi wnaeth o fynnu mod i'n cyfansoddi, a defnyddio'r ysgol i berfformio'r gweithiau 'ma.
"Ro'n i'n synnu at ei allu fo - nid fel athro yn unig - ond fel cyfansoddwr yn ei hawliau ei hun, a hefyd wrth gwrs, y dull anhygoel oedd ganddo fo i ganu'r piano, a 'nes i geisio efelychu hynny.
"A bod yn berffaith deg, byth ers hynny, mae o wedi bod yn arwr i mi."
Ar raglen Dylan Jones fore Iau dywedodd cyn brifathro Ysgol Maes Garmon, Dr Aled Lloyd Davies: "Mae yna lawer o gyn ddisgyblion sy'n ddyledus i Rhys am sbotio fod yna elfen gerddorol yn perthyn iddyn nhw.
"Roedd ganddo'r ddawn i wneud i bobl chwerthin - ddim yn flin - os yn canu'n anghywir... o hyd rhywbeth bachog i ddweud ac wrth gwrs roedd plant wrth eu bodd efo hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2015