Cofio Rhys Jones
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau lu wedi eu rhoi i'r cerddor a'r darlledwr Rhys Jones fu farw ar 14 Ionawr.
Roedd Rhys Jones hefyd yn athro poblogaidd ac ymhlith y disgyblion gafodd eu dylanwadu'n fawr ganddo oedd Rhys Ifans. Dywedodd yr actor wrth Cymru Fyw:
"Dwi'n teimlo'n hynod drist wedi clywed y newyddion. Roedd Rhys Jones yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Maes Garmon ond fo oedd wastad y point of contact i bawb. Roedd o'n strict ond yn deg, ac roedd pawb yn yr ysgol, nid jyst y swotties,ond pawb yn ei barchu fo.
"Roedd yn ennyn parch am sawl rheswm, ond yn bennaf achos ei fod o'n eithaf awdurdodol a firm, ond byth yn dal dig a fedrech chi gael row gydag o un funud, ac yna roedd o drosodd ac roedd pawb yn symud ymlaen.
"Heb os, fo oedd yr athro gafodd y dylanwad mwyaf arna'i, gan gynnwys yr holl bobl wnaeth fy nysgu yng ngholeg actio'r Guildhall yn Llundain. Yn aml, pan fydda'i mewn sefyllfa anghredadwy, yn siarad efo un o'm harwyr yn Hollywood neu rh'wbeth fel' na, byddai'n meddwl i'n hun - beth fydda Rhys Jones yn ei ddweud rŵan?"
Fe roddodd y tenor Rhys Meirion y deyrnged hon i'r cerddor ar ei dudalen Facebook:
"What an innings!! Dyma i chi fywyd sydd wedi gwneud bywyd pawb a gaeth y pleser o'i gwmni, yn well o'r profiad hwnnw. Cerddor athrylithgar, hiwmor a direidi heintys, a'r gallu i adrodd hanesion a straeon mewn ffordd mor fyw a diddorol.
"Diolch, diolch, diolch amdano, ond bydd cymaint o golled, rŵan bod ei amser ar y ddaear wedi dod i ben. Bydd neb yn teimlo'r golled yn fwy na Gwen, Caryl a'r teulu a mae'n meddyliau gyda hwy heno."
Fe gyhoeddodd Rhys y llun hwn ohono yng nghwmni Rhys Jones a Beti George yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych yn 2013.
Fe roddodd Beti George ei theyrnged hi ar wefan Twitter:
"Mor, mor ddrwg gen i glywed am Rhys Jones. Un o fy ffefrynne. Un talp o dalent enfawr a sgwrsiwr heb ei ail."
Un gydweithiodd yn agos gyda Rhys Jones yn y meysydd addysg a cherddoriaeth ydi'r Dr Aled Lloyd Davies. Roedd yn brifathro Ysgol Maes Garmon pan roedd yr athro cerddoriaeth yn un o'i ddirprwyon. Bu'r ddau yn cyd-gyfansoddi sioeau cerdd yr ysgol ymhlith sawl prosiect arall.
"Roedd 'na lawer o gyn ddisgyblion Ysgol Maes Garmon sy'n ddyledus iawn i Rhys am spotio y ffaith bod 'na elfen gerddorol yn perthyn iddyn nhw, ac oedd Rhys â'r ddawn i wneud i bobl chwerthin yn ogystal. Nid rhyw sturmant o foi oedd o, yn edrych yn flin os oeddech yn canu'n anghywir. Roedd ganddo fo bob amser rhywbeth bachog i'w ddweud a roedd y plant wrth eu bodd efo hynny wrth gwrs."
Un arall ddaeth i gysylltiad gyda Rhys Jones yn Ysgol Maes Garmon tra'n ddisgybl oedd y cyfansoddwr Gareth Glyn:
"Yn syml iawn fyddwn i ddim yn gyfansoddwr na chwaith yn gerddor heb ddylanwad Rhys Jones.
"Mi oedd o'n gymaint o gefn i mi, mi wnaeth o fynnu fy mod i'n cyfansoddi o'r eiliad gyntaf, ac yn defnyddio'r ysgol fel modd i berfformio'r gweithiau 'ma.
"Roeddwn i wedi synnu at ei allu fo, nid yn unig fel athro ond fel cyfansoddwr, a hefyd y dull anhygoel 'ma oedd ganddo o ganu'r piano a mi geisiais efelychu hwnnw. Fyth ers y cyfnod hwnnw mae wedi bod, yn berffaith syml, yn arwr i mi."
Roedd R. Alun Evans yn bennaeth BBC Cymru ym Mangor tra roedd Rhys Jones yn gweithio yna'n cyflwyno un o'i amryw raglenni cerddorol ar Radio Cymru:
"Roedd Rhys Jones yn rhan bwysig yn nyddiau cynnar sefydlu Radio Cymru ac roeddwn yn gwybod yn iawn pan roedd wedi cyrraedd yr adeilad gan ei fod yn mynd law yn llaw â sŵn chwerthin yn cychwyn.
"Roedd ei ffordd o gyfathrebu a'i ddawn fel cyfathrebwr, yn ogystal â'i ddetholiad o gerddoriaeth yn ei wneud yn dderbyniol iawn i'r gynulleidfa ar Radio Cymru, ond yn ogystal â'i waith cyhoeddus, roedd hefyd yn weithgar iawn yn ei gymuned.
"Sawl gwaith, fe fues i'n pregethu yn ei gapel ym Mhrestatyn ac roedd Rhys wrthi'n canu'r organ yn ei ffordd unigryw... dyna'r math o ddyn oedd o."
Roedd yna ragor o deyrngedau i Rhys Jones ar wefan Twitter o'r byd addysg a cerddoriaeth:
Tŷ Hendre (Canolfan Dysgu Cymraeg yn yr Wyddgrug): "Daeth y newyddion trist fod y cerddor, addysgwr a darlledwr Rhys Jones wedi marw yn 87 oed. Athro ysbrydoledig, bythgofiadwy."
Dafydd Iwan: "Coffa da am glamp o Gymro a chawr o Gerddor a mwy na dim, gŵr bonheddig o Gristion, Rhys Jones. Diolch amdano."
Sioned Terry: "Ein dyled iddo fel cerddorion ac fel Cymry yn enfawr. Pob cydymdeimlad â'i deulu."
Aled Hall: "Newydd glywed y newyddion trist iawn am farwolaeth un o drysorion ein cenedl Rhys Jones. Meddwl amdanat Caryl Parry Jones a'r teulu oll xxx."
Ond yn ôl â ni at Rhys arall, Rhys Ifans. Sut y bydd o'n cofio Rhys Jones?
"Mae cwpwl o bethau. Un oedd ei ddawn adeg gwasanaethau bore'r ysgol i droi emyn ddiflas yn ddifyr drwy chwistrellu bach o honky tonk hanner ffordd drwodd, ond y stori orau alla'i feddwl amdano i adlewyrchu Rhys Jones yw hon.
"Roeddwn yn neuadd yr ysgol yn dysgu sol-ffa gyda'r stumiau dwylo a phob dim a dwi'n dal yn cofio sol-ffa hyd heddiw gyda llaw. Ta waeth, yn ystod y wers, ddaeth dau athro arall i mewn i wneud rhyw gyhoeddiad, un athro eithaf tew, ac un yn eithaf tenau.
"Mi 'naeth y ddau eu datganiad, a dechrau ar eu ffordd allan. Wrth iddyn nhw gyrraedd y drws, dechreuodd Rhys Jones chwarae cerddoriaeth Laurel and Hardy.
"Dyna Rhys Jones!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2015