Iechyd: Ble aiff yr £425 miliwn ychwanegol?

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae'r gweinidog iechyd wedi datgan sut y bydd yr £425 miliwn ychwanegol sy'n cael ei roi i'r GIG yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei wario.

Dywedodd Mark Drakeford wrth Bwyllgor Iechyd y Cynulliad ei fod yn disgwyl y bydd nifer o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi gor-wario yn y flwyddyn ariannol nesaf, a chadarnhaodd bod £60 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer cadw'r ddysgl ariannol yn wastad yn 2015-16.

Bydd cyfanswm o £200 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd yn 2015-16, a bydd tua £140 miliwn yn cael ei roi i'r pedwar bwrdd iechyd sydd wedi llwyddo i gyflwyno cynlluniau cyllideb tair blynedd i Lywodraeth Cymru.

Bydd £225 miliwn pellach ar gael i'w wario ar wasanaethau iechyd yn 2016-17, a dywedodd y gweinidog iechyd wrth y pwyllgor y byddai £200 miliwn o hwnnw'n cael ei roi i fyrddau iechyd, gan gael ei ddosbarthu ar sail poblogaeth.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd wedi penderfynu ble y byddai'r £25 miliwn arall yn cael ei wario - ond cyfaddefodd y "y bydd sawl cais" am yr arian hwnnw.