Gareth Davies yw cadeirydd newydd URC

  • Cyhoeddwyd
Gareth Davies

Mae prif weithredwr y Dreigiau, Gareth Davies, wedi ei ethol yn gadeirydd Undeb Rygbi Cymru yn dilyn pleidlais o aelodau bwrdd yr undeb.

Ar ôl 11 mlynedd, daeth cyfnod David Pickering yn y swydd i ben yn y cyfarfod yn Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth.

Dywedodd prif weithredwr URC, Roger Lewis, y byddai'r cadeirydd newydd yn cael ei gefnogaeth lawn.

Bydd Davies yn gadael ei swydd gyda'r Dreigiau yn fuan.

Roedd aelod arall o'r bwrdd, Martin Davies, hefyd wedi ei enwebu fel ymgeisydd ar gyfer swydd y cadeirydd.

Mae Ken Hewitt wedi ei ethol i barhau fel dirprwy gadeirydd URC.

Dywedodd Gareth Davies: "Mae'n fraint cael fy ethol yn gadeirydd URC.

"Hoffwn ddiolch i Fwrdd y Cyfarwyddwyr am eu cefnogaeth ac am roi ffydd yn fy ngallu i gynrychioli Undeb Rygbi Cymru yn y rôl yma.

"Mae cefnogaeth gymaint o glybiau hefyd wedi bod yn galonogol."

Diolchodd Mr Davies hefyd i David Pickering, am y "cyfraniad enfawr y mae wedi ei wneud dros yr 11 mlynedd diwethaf".

"Mae'n rhaid i ni barhau i ddatblygu i gipio'r cyfleoedd a delio gyda'r heriau sydd o'n blaenau ac rydw i'n benderfynol o sicrhau bod URC yn gorff rheoli y gallwn ni fod yn falch ohono."

Disgrifiad,

Gareth Davies URC

'Cyfnod cyffrous'

Dywedodd prif weithredwr yr undeb, Roger Lewis, ei fod yn amlwg pa mor bwysig yw rôl y cadeirydd i'r gêm yng Nghymru.

"Rydw i'n edrych ymlaen at gael gweithio yn agos gyda Gareth wrth i ni geisio parhau a datblygu ein rôl fel camp genedlaethol Cymru ac yn wlad allweddol ar lefel uchaf y gêm ryngwladol," meddai.

"Mae'r busnes yn llwyddo, mae ein statws rhyngwladol yn gryf ac mae ein ffocws ar y gêm gymunedol yn cynnig buddion wrth gryfhau rhwydwaith y gamp ar lawr gwlad.

"Gallwn ni ddim ymlacio ac mae cyfnod cyffrous o'n blaenau i bawb sy'n rhan o rygbi Cymru."