Ymgyrchwyr gam yn nes at achub pwll nofio Arberth
- Cyhoeddwyd
Mae pobl leol yn Sir Benfro gam yn nes at achub pwll nofio Arberth yn dilyn ymgyrch i hel arian.
Penderfynodd Cyngor Sir Penfro beidio rhoi cefnogaeth ariannol i'r pwll oherwydd toriadau, ac roedd ymgyrch i godi digon o arian i gynnal y safle fel menter gymunedol.
Cafodd y grŵp darged o £200,000 i osod boeler newydd a gwneud gwaith cynnal a chadw.
Dywedodd Cyfeillion Pwll Arberth ddydd Mawrth eu bod nhw wedi casglu digon o arian i gymryd rheolaeth o'r pwll yr wythnos nesaf.
Penderfynodd y cyngor beidio cefnogi'r pwll wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion gwerth £20 miliwn.
Bydd y pwll nawr yn cael ei reoli gan grŵp cymunedol, sydd wedi casglu'r arian sydd ei angen i redeg y safle.
Derbyn cynllun busnes
Dywedodd Sue Rees o Gyfeillion Pwll Arberth: "Byddwn yn cymryd drosodd ddydd Llun.
"Roedd rhaid i ni gasglu £130,000 erbyn Tachwedd 1, ond rydyn ni wedi pasio hynny. Cawsom wybod bod angen £130,000 i brynu a gosod y boeler biomas.
"Mae Cyngor Sir Penfro nawr wedi derbyn ein cynllun busnes.
"Byddwn yn agor i'r cyhoedd ddydd Llun, a bydd yr holl ysgolion oedd yn dod yma i nofio yn dod yn ôl."
Er yr hwb i'r ymgyrch i achub y ganolfan, bydd angen casglu mwy o arian ar gyfer paneli solar fydd yn cael eu gosod ar y to.
"Rydyn ni dal angen bron i £70,000 arall i gael y paneli i'r to. Rydyn ni dal yn chwilio am gynigion cyfranddaliadau.
"Y cynllun yw bod y boeler biomas angen bod i mewn ac yn gweithio erbyn y Nadolig. Mae'r paneli yn rhan o'r system yna, felly rydyn ni'n dal i gasglu arian..."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd8 Medi 2014