Pontio wedi cael rhybudd chwe mis cyn canslo 'Chwalfa'

  • Cyhoeddwyd
Pontio
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad oedd i'r ganolfan gelfyddydau agor ym mis Medi, ond mae adeiladwyr yn parhau i weithio ar y safle

Roedd rheolwyr Pontio yn ymwybodol fod risg uchel y gall y ganolfan ym Mangor agor yn hwyr - chwe mis cyn canslo'r cynhyrchiad agoriadol

Roedd rhaid canslo agoriad swyddogol y ganolfan £44m ym mis Hydref, a'r bwriad nawr yw cwblhau'r gwaith adeiladu erbyn Chwefror 2015.

Cyhoeddodd Prifysgol Bangor ym mis Medi eu bod yn gohirio cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o 'Chwalfa' bythefnos cyn noson agoriadol y sioe. Yna, ym mis Hydref, cafodd y cynhyrchiad ei ganslo'n gyfan gwbl.

Mae dogfennau mewnol o fis Ebrill, sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru, yn rhybuddio bod methiannau rheoli arian yn ogystal â "llithriad wrth adeiladu" yn risgiau i Pontio.

Mae Llywodraeth Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n ariannu'r cynllun, wedi datgan eu pryderon ynglŷn â'r ganolfan, ac mae cyn weinidog diwylliant wedi galw am archwiliad annibynnol.

Mewn datganiad dywedodd Pontio bod y client mewn unrhyw brosiect adeiladu yn dibynnu ar amserlen y contractwyr ar gyfer cwblhau'r gwaith, ac y dylid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r oedi yn y gwaith adeiladu at y contractwyr.

Canslo 'Chwalfa'

Daeth asesiadau mewnol ym mis Ebrill i'r canlyniad bod risg uchel i'r prosiect o ganlyniad i gynnydd mewn costau ac oedi ar waith adeiladu. Daeth asesiad mewnol o hyd i'r un risgiau yn 2013.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Pugh yn galw am archwiliad annibynnol o'r cynllun pan fydd wedi gorffen

£37m oedd amcangyfrif cost y cynllun yn 2010, ond ers hynny mae costau ychwanegol wedi gwthio'r gost dros £44m.

Mae bron i dri chwarter o'r gyllideb yn dod o arian cyhoeddus, gan gynnwys £15m gan Lywodraeth Cymru, £12.5m o arian Ewropeaidd a £3.5m gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC).

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi buddsoddi £400,000 ychwanegol, mae £1m wedi dod gan gyfranwyr eraill, a bydd y brifysgol yn rhoi gweddill yr arian.

'Angen archwiliad allanol'

Roedd y cyn weinidog diwylliant, Alun Pugh, yn un o'r rhai oedd wedi prynu tocyn ar gyfer y perfformiad cyntaf yng nghanolfan Pontio, ac mae o wedi beirniadu'r oedi.

"Mae problemau sylweddol wedi bod mewn gweithredu'r prosiect. Dwi ar ddeall bod y gyllideb yn rhedeg miliynau o bunnoedd dros y ffigwr gwreiddiol, mae'r amserlen wedi bod ar chwâl - gyda phobl yn prynu tocynnau ac yn derbyn ad-daliad - i gyd o fewn ychydig wythnosau.

"Dwi'n credu mai'r flaenoriaeth nesaf yw cwblhau'r prosiect, ond wedi hynny mae gofyn am archwiliad allanol ac annibynnol er mwyn deall yn union beth sydd wedi mynd o'i le gyda'r cynllun gwerth miliynau o bunnoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gobaith i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror 2015

Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd argraff artist o'r ganolfan ar ôl iddi agor

Mae "pwysau ariannol" y datblygiad wedi bod yn flaenoriaeth i'r tîm adeiladu, rhywbeth oedd yn cael ei adolygu a'i drafod "yn ddwys" gyda'r contractwyr yn ôl is-ganghellor y brifysgol, yr Athro John Hughes.

Wrth ymateb i'r oedi yn agoriad pontio, dywedodd Alun Ffred Jones AC, ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore Llun:

"Tydw i ddim yn barod i wario rhagor o arian cyhoeddus ar ymchwiliad, ond wedi'r cwbl os oes cwestiynau i'w ateb, gwaith y brifysgol yw ateb y cwestiynau hynny.

"Ond yn yr achos yma, mae'n werth i ni gofio mai'r bobl sy'n gyfrifol am hyn yw'r contractwyr, y nhw sydd wedi cytuno ar bris, nhw sydd wedi cytuno ar amserlen a nhw sydd wedi methu cadw at eu gair."

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith, Miller Group, wedi dweud eu bod yn wynebu "amserlen heriol" a'u bod yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cwblhau'r gwaith cyn gynted a phosib.

Pryderon wedi eu datgan

Mae BBC Cymru wedi dysgu bod pryderon am gyllideb wedi eu datgan ers tro gan Lywodraeth Cymru a CCC.

Mewn cyfarfod CCC ym mis Gorffennaf 2011, penderfynodd aelodau beidio rhoi arian tuag at gostau adeiladu Pontio oherwydd gwendidau yn y cynllun busnes, gan gynnwys gweledigaeth artistig wael a "diffyg tystiolaeth i brofi bod model ariannol y cynllun yn ddigon cadarn".

Mewn llythyr at CCC ym mis Medi 2011, mynegodd Llywodraeth Cymru eu pryderon ynglŷn â'r prosiect, gan ofyn i CCC ymchwilio i risgiau datblygiad Pontio.

Ym mis Hydref 2012, fe wnaeth Pontio gyflwyno cynllun busnes newydd i CCC er mwyn rhyddhau £3.5m. Dim ond £2.5m sydd wedi ei ryddhau hyd yma, a bydd yr £1m sy'n weddill yn cael ei ryddhau os all Pontio gwrdd â gofynion CCC.

Dywedodd arolwg mewnol Pontio yn 2012 bod methiant i sicrhau cytundeb ar delerau CCC, a fyddai wedi rhyddhau'r £3.5m, wedi creu risg mawr i'r prosiect.

Roedd risgiau eraill yn cynnwys methiant i recriwtio aelodau staff gyda "sgiliau digonol" i reoli gweithgareddau dydd i ddydd y prosiect, neu'r gofynion technegol.

Roedd y cynllun busnes gafodd ei hadolygu yn rhagweld y byddai Pontio yn gwneud colled o dros £1.4m yn y bum mlynedd cyntaf ar ôl agor. Mae Prifysgol Bangor wedi gaddo parhau i roi cefnogaeth ariannol i Pontio ar ôl agor.

Ymateb Pontio

Mewn datganiad dywedodd Pontio bod y client mewn unrhyw brosiect adeiladu yn dibynnu ar amserlen y contractwyr ar gyfer cwblhau'r gwaith, ac y dylid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynglŷn â'r oedi yn y gwaith adeiladu at y contractwyr.

Yn ôl y datganiad: "Mae'r Brifysgol wedi bod mewn cyswllt cyson gyda'r contractwyr ac roedden nhw'n gyson o'r farn bod yr amserlen yn bosibl. Felly, roedd yn rhaid i'r Brifysgol roi'r cyfle i Miller gyflawni'r addewid o orffen y gwaith yn brydlon.

"Dim ond wedi iddi ddod i'r amlwg na fyddai'n bosibl darparu lleoliad addas ar gyfer ymarferion y cast a'r criw yn y theatr y gwnaeth y Brifysgol wneud y penderfyniad i ohirio.

"Mae'r cyfeiriad camarweiniol at golled o £1.4 miliwn yn dod o gynllun busnes cafodd ei ysgrifennu yn 2011, ac sydd bellach yn hen. Cafodd cynllun busnes a rhaglen artistig newydd eu cyflwyno i Gyngor Celfyddydau Cymru yn Hydref 2013. Yn dilyn proses werthuso daeth diffyg o £148,000 dros bum mlynedd i'r amlwg.

"Arweiniodd hyn at i'r Cyngor Celfyddydau ddyfarnu arian refeniw ar gyfer 2014/15. Mae cynllun busnes pellach yn cael ei baratoi i'w gyflwyno yn y flwyddyn newydd fel rhan o adolygiad blynyddol rheolaidd."