Bryn Terfel: 'Pontio angen amser'
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw wedi bod yn holi Bryn Terfel am ei ymateb i'r oedi yn agoriad swyddogol canolfan Pontio, gan fod theatr y ganolfan ym Mangor yn cael ei henwi ar ei ôl.
Dywedodd: "Heb os nac oni bai, mi fydd 'na deimlad o siom i lawer ynghylch gohirio agoriad y Theatr ym Mangor.
"Ond ar y llaw arall mae'n rhaid cymryd cam yn ôl a phwyllo er lles y staff, yr artistiaid, y cynulleidfaoedd, a'r ymwelwyr.
"Cael theatr o safon uchel yw'r nôd ac nid rhyw frysio i orffen popeth ar hast i daflu perfformiadau mlaen."
Ym mis Hydref, roedd y bariton o Bantglas i fod i berfformio mewn cyngerdd i ddathlu agoriad y ganolfan gelfyddydol sy'n debygol o gostio £49 miliwn erbyn hyn. Mae hyn £12 miliwn yn fwy na'r amcangyfrif gwreiddiol.
"Dwi'n bersonol wedi bod yn rhan o sawl agoriad, fel y Galeri yng Nghaernarfon, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ail agoriad y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden.
"Dw i'n cofio mynd mewn i un ohonynt i ymarfer a'r gweithiwr yn dal wrthi yn gorffen y gwaith a phob math o geriach ym mhobman, heb sôn am y llwch a'r paent. Nid yw hynny'n ddelfrydol wrth gwrs, ac mae braidd yn beryglus."
Ymfalchïo
Mae Bryn yn gobeithio y daw y dydd pan fydd pawb yn gallu "ymfalchïo yn y theatr newydd ym Mangor, ond ar y funud yr unig beth sydd ei angen ydi amser," meddai.
"Amser i gael popeth yn berffaith i barhau beth gychwynwyd gan Theatr Gwynedd mewn safon a safle godidog.
"Yn sicr mae'r un sydd wedi cael y fraint o fod a'i enw ar y Theatr yn fodlon iawn iddi gymryd yr amser angenrheidiol er mwyn cwblhau'r prosiect yn iawn ac 'dwi'n hynod falch o hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Medi 2014