Dim achos yn erbyn rhieni Seabridge
- Cyhoeddwyd
Ni fydd achos troseddol yn erbyn cwpl oedd wedi eu cyhuddo o esgeuluso, ar ôl i'w mab gael ei ddarganfod yn farw yn eu cartref yn Sir Benfro.
Cafodd corff Dylan Seabridge, oedd yn wyth oed, ei ddarganfod yn Eglwyswrw ar Ragfyr 6, 2011.
Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) gadarnhau nad oedden nhw am roi tystiolaeth yn erbyn Glynn na Julie Seabridge.
Dywedodd CPS eu bod wedi dod i'r penderfyniad ar ôl cymryd cyngor arbenigwyr gan sawl ffynhonnell.
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd Erlynydd y Goron, Iwan Jenkins, nad oedd yn niddordeb y cyhoedd i barhau gyda'r achos yn erbyn Mr Seabridge, ac nad oedd yn addas i'w wraig wynebu cyhuddiadau, ar sail ei hiechyd.
Ychwanegodd bod angen i achosion gyrraedd safonau penodol, a bod angen monitro hynny wrth i achos barhau.
"Rydyn ni wedi dod i gasgliad yn dilyn adolygiad manwl o'r achos yn erbyn Glynn a Julie Seabridge yn ymwneud a marwolaeth drasig eu mab, Dylan.
"O ganlyniad i gasgliadau ein hadolygiad, rydyn ni wedi rhoi gwybod i'r llys nad yw'r erlyniad yn cynnig unrhyw dystiolaeth yn erbyn Glynn na Julie Seabridge."
Nid yw'r cwest i farwolaeth Dylan wedi ei gynnal eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013